Ieithoedd Germanaidd Gogleddol

teulu iaith Germanaidd

Cangen o'r ieithoedd Germanaidd, rhan o'r teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r ieithoedd Germanaidd gogleddol. Mae'r gangen yn cynnwys ieithoedd Llychlyn: Daneg, Ffaröeg, Islandeg, Norwyeg a Swedeg. Maen nhw i gyd yn tarddu'n hanesyddol oddi wrth Hen Norseg. Fe'u siaredir yn frodorol dros gwledydd y Llychlyn, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Norwy a Sweden a hefyd gan leiafrif yn y Ffindir.

Dosbarthiad golygu

Yn draddodiadol, fe ddosberthir yr ieithoedd Germanaidd gogleddol yn ddau grŵp: y grŵp gorllewinol, yn cynnwys Islandeg, Ffaröeg a Norwyeg, a'r grŵp dwyreiniol, Daneg a Swedeg. Mae'r dosbarthad hwnnw yn adlewyrchu ffactorau hanesyddol, gan fod yr Islandeg a'r Ffaröeg wedi datblygu allan o dafodieithoedd Hen Norseg a siaradwyd yn Norwy. Heddiw tueddir hefyd i ddefnyddio dosbarthiad yn Scandinafeg Ynysig (Islandeg a Ffaröeg) a Scandinafeg Gyfandirol (Daneg, Swedeg a Norwyeg). Mae'r ail ddosbarthiad yn rhoi blaenoriaeth i ffactorau synchronig, yn enwedig, debygrwydd yr ieithoedd heddiw, gan gynnwys gradd cyd-ddealtwriaeth rhyngddynt.

Mae'r gwahaniaethau ieithyddol rhwng yr ieithoedd Scandinafaidd Cyfandirol heddiw yn fychan. Mae'r rhesymau dros eu rhannu nhw'n dair iaith heddiw yn bennaf yn wleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, yn hytrach nag yn ieithyddol. Mae gradd uchel ar gyd-ddealltwriaeth rhyngddynt, yn enwedig rhwng Bokmål Norwyeg a Daneg.

  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.