Banciwr ac economegydd Americanaidd oedd Paul Adolph Volcker (5 Medi 19278 Rhagfyr 2019) a fu'n gadeirydd y Gronfa Ffederal o 1979 i 1987.

Paul Volcker
GanwydPaul Adolph Volcker Jr. Edit this on Wikidata
5 Medi 1927 Edit this on Wikidata
Cape May Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
o canser y brostad Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetheconomegydd, banciwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddCadeirydd y Gronfa Ffederal, president of the Federal Reserve Bank of New York, Under Secretary of the Treasury for International Affairs Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auArthur S. Flemming Award, Gwobr Daniel Patrick Moynihan, Gwobr Francis Boyer, doctor honoris causa of Keiō University, Paul A. Volcker Lifetime Achievement Award for Economic Policy, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra, honorary doctor of Syracuse University, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami Edit this on Wikidata

Ganed yn Cape May, New Jersey, i deulu o dras Almaenig. Astudiodd hanes, economeg, a gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Princeton i ennill ei radd baglor yno yn 1949, a derbyniodd ei radd meistr mewn economi wleidyddol a llywodraeth o Harvard yn 1951. Astudiodd hefyd am gyfnod yn Ysgol Economeg Llundain cyn iddo ymuno â Chronfa Ffederal Efrog Newydd yn swydd economegydd yn 1952. Treuliodd chwarter canrif cyntaf ei yrfa yn gweithio yn Wall Street ac yn Adran y Trysorlys.[1]

Fe'i penodwyd yn gadeirydd y Gronfa Ffederal, banc canolog yr Unol Daleithiau, gan yr Arlywydd Jimmy Carter yn Awst 1979.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Will Hutton, "Paul Volcker obituary", The Guardian (24 Rhagfyr 2019). Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2019.