Luciano Pavarotti
Tenor operatig o'r Eidal oedd Luciano Pavarotti (12 Hydref 1935 – 6 Medi 2007).
Luciano Pavarotti | |
---|---|
Ganwyd | 12 Hydref 1935 Modena |
Bu farw | 6 Medi 2007 Modena |
Label recordio | Decca Records |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Teyrnas yr Eidal |
Galwedigaeth | canwr opera, actor ffilm |
Arddull | opera |
Math o lais | lyric tenor |
Tad | Fernando Pavarotti |
Priod | Adua Veroni, Nicoletta Mantovani |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Grammy Legend, MusiCares Person of the Year, Gwobr Ffoaduriaid Nansen, Anrhydedd y Kennedy Center, Commander of the Order of Cultural Merit, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Cadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal, Dinesydd Anrhydeddus Sarajevo, Classic Brit Awards |
Gwefan | http://www.lucianopavarotti.com/ |
llofnod | |
Ganed Luciano Pavarotti ar gyrion Modena yng ngogledd yr Eidal. Roedd y teulu yn dlawd, ond roedd ei dad yn ganwr dawnus ac yn berchen recordiau o ganu tenoriaid megis Beniamino Gigli, Giovanni Martinelli, Tito Schipa a Enrico Caruso. Bu'n canu yng nghôr yr eglwys leol, ac yn 1954 dechreuodd gymeryd gwersi cerddorol. Yn 1955 roedd yn aelod o gôr lleol o Modena a ddaeth i gystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Enillodd y côr, a rhoddodd hyn ysgogiad iddo droi yn ganwr proffesiynol. Rhoddodd ei berfformiad opera cyntaf ar 29 Ebrill 1961 fel Rodolfo yn La bohème, yn Reggio Emilia.
Aeth ymlaen i ddod yn un o ganwyr mwyaf adnabyddus y byd. Daeth yn enwog ymhell tu hwnt i fyd opera, yn enwedig wedi Cwpan y Byd Pêl-droed 1990 a gynhaliwyd yn yr Eidal. Pavarotti yn canu aria Giacomo Puccini, "Nessun Dorma" o'r opera Turandot oedd thema'r gystadleuaeth, a chynhaliodd gyngerdd "Y Tri Tenor" yn Rhufain gyda Plácido Domingo a José Carreras.