Mae Pearl Harbor yn harbwr ar ynys Oʻahu, Hawaii, i'r gorllewin o Honolulu. Mae rhannau helaeth o'r harbwr a'r ardal gerllaw yn ganolfan lyngesol dyfroedd dwfn sy'n perthyn i Lynges yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn bencadlys i Lynges Cefnfor Tawel yr Unol Daleithiau. Pan ymosodwyd ar Pearl Harbor gan Ymerodraeth Japan ar y 7fed o Ragfyr, 1941, daeth â'r Unol Daleithiau i mewn i'r Ail Ryfel Byd.

Pearl Harbor
MathLagŵn, harbwr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHonolulu County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau21.36194°N 157.95361°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Hanes golygu

Yn wreiddiol, roedd Pearl Harbor yn amfae eang ond bas o'r enw Wai Momi (sy'n golygu "harbwr y perl") neu Pu'uloa i drigolion Hawaii. Yn ôl chwedloniaeth Hawaii, ystyriwyd Pu'uloa fel cartref duwies y siarc a'i brawd (neu'i mab) Kahi'uka. Dethlir bywyd Keaunui, pennaeth y pwerus, yng ngogledd Hawaii. Dywedir iddo agor sianel yr oedd modd llywio ar ei hyd ger gweithfeydd halen Puuloa, lle gallai llongau'r dyfodol deithio ar ei hyd. Roedd yr harbwr yn orlawn o wystrys a gynhyrchai berlau tan diwedd y 1800au.

Ym 1908, sefydlwyd Iard Lyngesol Pearl Harbor. Rhwng 1908 a 1919 tyfodd gorsaf lyngesol Pearl Harbor yn barhaus o ran maint, ac eithrio pan gwympodd y doc sych ym 1913. Dechreuwyd gweithio ar y doc ar yr 21ain o Fedi, 1909 ond ar yr 17eg o Chwefror, 1913, cwympodd y doc yn ddarnau. Wrth i luoedd arfog Japan frwydro yn Tsieina, dechreuodd yr Unol Daleithiau fynegi pryder am fwriadau Japan, a dechreuasant gymryd camau i amddiffyn eu hunain. Ar y 1af o Chwefror, 1933 penderfynodd Llynges yr Unol Daleithiau gynnal ymosodiad ffug ar y safle yn Pearl Harbor fel ymarfer paratoi. "Llwyddodd" yr ymosodiad ac ystyriwyd yr amddiffyniad yn "fethiant".

Ymosodiad Pearl Harbor 1941 golygu

 
USS Arizona (BB-39) yn suddo yn ystod yr ymosodiad

Mae ymosodiad Japan ar ganolfan forwrol UDA yn Pearl Harbor yn Hawäi yn Rhagfyr 1941 yn cael ei weld fel trobwynt pwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd. Gwelwyd ef fel camgymeriad milwrol enfawr, gydag UDA yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn Japan, ac er mwyn cefnogi Japan cyhoeddodd yr Almaen ryfel ar UDA. Roedd hwn yn ddigwyddiad o drodd y llif o blaid y Cynghreiriaid gyda holl rym milwrol yr UDA bellach tu cefn iddynt.

Bwriad Japan, wrth lansio’r ymosodiad dirybudd ar Pearl Harbor, oedd concro de-ddwyrain Asia a’r Pasiffig cyn bod UDA wedi cael y cyfle i adennill ei phŵer milwrol.  

Dechreuodd awyrlu a llongau tanddwr bychain Llynges Ymerodraeth Japan ymosod ar yr Unol Daleithiau. Yn groes i'r gred gyffredin, nid oedd yr ymosodiadau hyn wedi dod fel syndod. Roedd yr Americanwyr wedi datrys cod Japan yn flaenorol, a gwyddent am ymosodiad arfaethedig cyn iddo ddigwydd. Fodd bynnag, yn sgil trafferthion i ddatrys negeseuon eraill a anfonwyd gan Japan, methodd yr Unol Daleithiau ddarganfod beth yn union oedd targed Japan cyn iddynt ymosod.[1] O dan arweiniad y llyngesydd Isoroku Yamamoto, roedd yr ymosodiad yn drychinebus i'r Americanwyr o ran y colledion dynol a'r difrod i awyrlu'r Unol Daleithiau. Am 6.05 y bore ymosododd y don gyntaf o 183 o awyrennau. Bomwyr plymio, bomwyr llorweddol ac ymladdwyr oedd yr awyrennau'n bennaf.[2] Trawodd y Japaneaid longau ac offer milwrol am 7.51 y bore. I ddechrau, ymosododd y don gyntaf o awyrennau ar y meysydd awyr yn Ynys Ford. Am 8.30 y bore ymosododd yr ail don o 170 o awyrennau Japaneaidd ar y fflyd a oedd wedi ei hangori yn Pearl Harbor. Trawyd llong frwydro Arizona gan fom a laniodd ar adran arfau blaen y llong. Achosodd hyn i'r llong ffrwydro'n ddarnau, gan suddo o fewn eiliadau. Gyda'i gilydd, suddwyd naw llong o fflyd yr Unol Daleithiau a difrodwyd 21 llong yn ddifrifol. Roedd tair o'r 21 wedi eu difrodi mor wael fel nad oedd modd eu trwsio. Bu farw 2,350 i gyd, gan gynnwys 68 o sifiliaid, ac anafwyd 1,178. O'r holl bersonél milwrol a fu farw yn Pearl Harbor, roedd 1,177 ohonynt ar fwrdd yr Arizona. Saethwyd y bwledi cyntaf gan USS Ward (DD-139) at long danddwr fechan a ddaeth i wyneb y dŵr y tu allan i Pearl Harbor; llwyddodd USS Ward i suddo'r llong danddwr fechan am tua 6:55, tua awr cyn yr ymosodiad ar Pearl Harbor.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Nash, Gary B., Julie Roy Jeffrey, John R. Howe, Peter J. Frederick, Allen F. Davis, Allan M. Winkler, Charlene Mires, and Carla Gardina Pestana. The American People, Concise Edition Creating a Nation and a Society, Combined Volume (6th Edition). New York: Longman, 2007.
  2. Hakim, Joy (1995). A History of Us: War, Peace and all that Jazz. New York: Oxford University Press. ISBN 0-19-509514-6.