Pedro Antonio de Alarcón
Nofelydd, bardd, dramodydd, a newyddiadurwr [o [Sbaen]] yn yr iaith Sbaeneg oedd Pedro Antonio de Alarcón y Ariza (10 Mawrth 1833 – 10 Gorffennaf 1891) sy'n nodedig am ei nofel El sombrero de tres picos (1874).
Pedro Antonio de Alarcón | |
---|---|
Ffugenw | Pedro Antonio de Alarcón, Pedro A. de Alarcón |
Ganwyd | Pedro Antonio Joaquín Melitón de Alarcón y Ariza 10 Mawrth 1833 Guadix |
Bu farw | 19 Gorffennaf 1891 Madrid |
Man preswyl | calle de Atocha |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, newyddiadurwr, gwleidydd, dramodydd, diplomydd |
Swydd | Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, Aelod o Senedd Sbaen, llysgennad |
Arddull | nofel, theatr |
Plaid Wleidyddol | Liberal Union |
Mudiad | realaeth |
Partner | Enriqueta Lozano |
llofnod | |
Ganed yn Guadix, Granada, a chychwynnodd ei yrfa lenyddol yn newyddiadurwr ac yn fardd. Cafodd fethiant gyda'i ddrama El hijo pródigo (1857), ac aeth yn filwr yn ymgyrch Moroco yn 1859–60. Ysgrifennodd Diario de un testigo de la guerra de Africa (1859) am ei brofiadau.[1]
Dychwelodd i Sbaen a daeth yn olygydd y cyfnodolyn gwrthglerigol El Látigo. Ystyrir ei waith amlycaf, y nofel fer El sombrero de tres picos, yn glasur o ffuglen costumbrismo. Ymhlith ei nofelau eraill mae El final de Norma (1855), El escándalo (1875), ac El niño de la bola (1880). Bu farw yn Valdemoro, ger Madrid, yn 58 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Pedro Antonio de Alarcón y Ariza. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2019.