Pelydr-X

(Ailgyfeiriad o Pelydr-x)

Math o ymbelydredd electromagnetig yw pelydr'-X'. Mae eu tonfedd rhwng 10 a 0.01 nanometr; hynny yw amrediad o rhwng 30 pethaherts a ecsaherts ac egni rhwng 120 eV a 120keV. Mae donfedd nhw'n fwy na phelydrau gama ond yn llai na thonnau uwchfioled. Mae'n cwbwl bosib mai Cymro o'r enw William Morgan oedd y cyntaf i gynhyrchu Pelydrau-X.[1]

Pelydr-X
Hand mit Ringen (Y llaw a'r Fodrwy): argraffiad o belydr-x cyntaf Röntgen - o law ei wraig. Cymerwyd y 'llun' hwn ar Ragfyr 22, 1895.
Enghraifft o'r canlynolymbelydredd electromagnetig Edit this on Wikidata
Mathymbelydredd, medical service Edit this on Wikidata
Rhan osbectrwm electromagnetig Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gangamma ray Edit this on Wikidata
Olynwyd ganuwchfioled Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y gair a defnyddir mewn llawer o ieithoedd am belydr-X ydy pelydrau Röntgen ar ôl un o'r prif ymchwilwyr cyntaf i'r maes hwn, sef Wilhelm Conrad Röntgen.

Fe'u defnyddir hwy fel arfer er mwyn diagnosis radiotherapi mewn ysbyty ac ym maes crisialeg. O'r herwydd mae'r gair ar lafar gwlad bellach, hefyd yn golygu'r llun a dynnir er mwyn gweld toriad mewn asgwrn o fewn y corff oherwydd nid yw'r pelydrau-X yn gallu treiddio trwy esgyrn. Gall ddos uchel o belydrau-X fod yn beryglus iawn a chredir y gallant achosi mwtaniad (mutation) yng nghelloedd y corff sy'n arwain at cancr.

Ar wahân i'r defnydd meddygol, câi ei ddefnyddio hefyd mewn meysydd awyrennau i archwilio bagiau am resymau diogelwch. Mae cynnydd wedi bod yn ddefnydd y peiriannau yma ers yr Ymosodiadau 11 Medi 2001. Defnydd arall yw archwilio mân graciau mewn llefydd megis dau ddarn o fetel wedi'i weldio at ei gilydd. Maent hefyd yn cael ei defnyddio i weld o dan haenau o baent mewn lluniau olew, gan fod rhai mathau o baent (gwyn er enghraifft) yn cynnwys llawer o blwm sydd hefyd yn atal y pelydrau treiddio.

Cynhyrchu pelydrau-x golygu

Cynhyrchir pelydrau-x mewn tiwb pelydrau-X. Mae peiriannau pelydrau-X yn cynnwys tiwb o'r fath yma sy'n cynnwys gwactod. Dyma ddiagram o'r tiwb pelydr-X fwyaf diweddar o'r enw'r tiwb Coolidge. Datblygwyd y tiwb yma o'r hen fath sef y tiwb crookes gan William Coolidge yn 1913.

 
  • Mae gan y ffilament K botensial negyddol, mae hyn felly yn gatod.
  • Cynhyrchir potensial positif ar y twngsten targed A. Mae A yn anod.
  • Pan gynhyrchir cerrynt mae'r ffilament yn K yn twymo. Mae electronau yn cael ei allyrru o’r arwyneb – maent yn cael yr egni yma o'r gwres, gelwir hyn yn allyriant thermionig.
  • Mae'r electronau a allyrrir yn cael ei gwrthyrru gan y catod K oherwydd ei wefr negyddol ac yn cael ei denu tuag at yr anod A sy'n bositif.
  • Mae'r gwahaniaeth potensial rhwng yr anod a chatod rhwng 25kV a 400kV. Mae'r foltedd uchel yma yn cyflymu'r electronau ac yn rhoi egni cinetig mawr iddynt.
  • Mae'r electronau yn taro'r targed twngsten A yn gyflym iawn ac yn cael ei gorfodi i stopio. Mae rhan fach iawn o'r egni cinetig yma yn cael ei drosglwyddo i belydrau-x (X).
  • Dim ond 0.5% o'r egni cinetig yn cael ei throsglwyddo i'r pelydrau-X (X) Mae'r gweddill o'r egni yn twymo'r twngsten targed A. Dyma pam mae'r twngsten yma yn cylchdroi ac mae yna dŵr C yn oeri'r twngsten.

Cyfeiriadau golygu