Pennant Roberts
cyfarwyddwr ffilm a aned yn Weston-super-Mare yn 1940
Cyfarwyddwr Cymreig oedd Pennant Roberts (15 Rhagfyr 1940 – 22 Mehefin 2010[1]) a oedd yn nodedig am ei waith ar deledu Prydeinig.
Pennant Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 15 Rhagfyr 1940 Weston-super-Mare |
Bu farw | 22 Mehefin 2010 o canser Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd teledu |
Ganwyd Roberts yn Weston-super-Mare i rieni Cymreig. Gweithiodd ar y rhaglenni BBC canlynol: Softly, Softly, Doomwatch, The Onedin Line, Sutherland's Law, Survivors, Angels, Blake's 7, Doctor Who, Juliet Bravo, Tenko a Howards' Way. Priododd yr actores Betsan Jones yn 1970 a daeth i siarad Cymraeg yn rhugl.[2] Symudodd i Gaerdydd yn 1994 a daeth yn weithgar yn y diwydiant teledu Cymreig gan gyfarwyddo cynyrchiadau i'r BBC a HTV. Cynhyrchodd ddramau ar gyfer Theatr y Sherman.[3]
Roedd Roberts yn weithgar o fewn y Gymdeithas Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr, ac yn gadeirydd ar y corff am sawl blwyddyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Pennant Roberts - Obituaries - The Stage". 23 August 2010.
- ↑ Piers Haggard Obituary: Pennant Roberts, The Guardian, 6 August 2010
- ↑ Haggard, Piers (6 August 2010). "Pennant Roberts obituary".
Dolenni allanol
golygu- Pennant Roberts ar wefan Internet Movie Database