Penrhyn Gobaith Da
Penrhyn mwyaf enwog De Affrica yw Penrhyn Gobaith Da. Fe'i lleolir ger Cape Town ac fel arfer mae pobl yn meddwl ei bod hi'n ffin rhwng Môr Iwerydd a Cefnfor India, ond dydy hynny ddim yn wyr am fod Penrhyn Agulhas yn fwy deheuol na Penrhyn Gobaith Da.
Math | pentir, penrhyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Table Mountain National Park |
Gwlad | De Affrica |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 34.3581°S 18.4719°E |
- Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).
Hanes
golyguY morwr Ewropeaidd cyntaf a aeth o gwmpas y penrhyn hwn oedd Bartolomeu Dias, morwr o Bortiwgal, a aeth o gwmpas Penrhyn Gobaith Da yn 1488. Oherwydd y tywydd stormus ar y pryd rhoddodd Dias yr enw "Penrhyn Tymhestloedd" (Cabo das Tormentas) arno, ond newidiodd Ioan II o Bortiwgal yr enw i "Benrhyn Gobaith Da" (Cabo da Boa Esperança), am iddo obeithio y byddai hynny'n fordd newydd i'r dwyrain.
Ar 6 Ebrill, 1652 cododd Jan van Riebeeck, masnachwr o'r Iseldiroedd, wersyll gyflenwi i'r Cwmni Dwyrain India Iseldiraidd. Datblygodd y wersyll hon i fod yn Cape Town. Ar 31 Rhagfyr, 1687 cychwynnodd grŵp o Hiwgenotiaid o Frainc i'r Penrhyn Gobaith da er mwyn osgoi erledigaeth crefyddol.
Ar 19 Ionawr, 1806 cipiodd Prydain Fawr Benrhyn Gobaith Da. O ganlyniad i gytundeb rhwng Prydain a'r Iseldiroedd ym 1814 daeth ardal y penrhyn yn wladfa Brydeinig.