Pentir Flamborough

Pentir o glogwyni calchfaen yn 400 troedfedd o uwchder yn Nwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Pentir Flamborough[1] (Saesneg: Flamborough Head).[2] Mae'n ymwthio i Fôr y Gogledd rhwng trefi Bridlington a Filey.

Pentir Flamborough
Mathpentir, penrhyn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolFlamborough
Daearyddiaeth
SirDwyrain Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.116°N 0.0831°W Edit this on Wikidata
Cod OSTA252706 Edit this on Wikidata
Map

Mae'n safle pwysig i adar y môr. Yn yr haf, mae miloedd o garfilod, huganod, piod y môr, hwyaid mwythblu, mulfrain[3] a gwylanod yn bridio.[4]

Codwyd goleudy ar ben y clogwyni ym 1669, ond heb ei ddefnyddio. Codwyd yr un presennol ym 1806, yn costio £8,000.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
  2. British Place Names; adalwyd 17 Chwefror 2021
  3. 3.0 3.1 Tudalen Flamborough ar wefan BBC
  4. Gwefan Gwarthodfa Natur Clogwyni Flamborough