Carfilod
Carfilod Alcidae | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teiprywogaeth | |
Alca torda Linnaeus, 1758 | |
Subfamilies | |
|
Teulu neu grŵp o adar ydy'r Carfilod (enw gwyddonol neu Ladin: Alcidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Charadriiformes.[2][3]
Maen nhw'n debyg i bengwiniaid ond maen nhw'n gallu hedfan. Maen nhw'n nofwyr a deifwyr ardderchog.[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Charadriiformes.[2][3]
Gan fod lleoliad rhywogaethau, genera a theuluoedd yn newid yn eithaf aml o fewn y safle tacson, yn enwedig o ganlyniad i ymchwil DNA, gall y dosbarthiad hwn hefyd newid.
Teuluoedd eraill o adar
golyguYn ôl IOC World Bird List ceir 240 teulu (Mawrth 2017) sy'n fyw heddiw (nid ffosiliau):
Geirdarddiad
golyguAi’r carfil mawr (aderyn di-adain a aeth i ddifodiant) oedd y “penguin” cyntaf ac ai morwyr Cymraeg a’i henwodd ar ôl y pen gwyn, neu'r clytyn gwyn o leiaf? Mae cwestiwn arall yn codi ynglŷn ag enw’r aderyn hwn - sef, o ble daeth yr enw diweddarach arno (os "pen gwyn" oedd o yn wreiddiol i'r Cymru), sef carfil? Yr enw arno yn yr Alban oedd gairfowl. Dyma ddywed yr Oxford English Dictionary am y gair hwn:
- Etymology: < Old Norse geir-fugl = Faroese gorfuglur, Swedish garfogel, Danish (from Icelandic) geirfugl. Hence also Gaelic gearbhul garefowl, and French gorfou a sort of penguin. The meaning of the first part of the compound is uncertain.
Gair o Hen Nors yw gairfowl felly, a aeth i’r Gaeleg fel gearbhui. Cofnod y teithiwr Martin Martin yn 1698 yw cofnod cyntaf y gair. Tybed ai ymdrech Martin i ynganu hwn esgorodd ar y ffurf gairfowl?
Dyma ddywed Geiriadur Prifysgol Cymru am etymoleg y gair carfil:
- carfil, carfyl [elf. anh. + S. bill ...ni welais i un carfil na phwffingen ML
O arall-eirio hwn cawn: “yn llythyrau Morrisiaid Món (1728-65) mae’r cyfeiriad cyntaf at carfil. Mae dwy elfen i’r gair, sef car- (elfen o dras anhysbys) a -fil (sef Cymreigiad o’r Saesneg bill)”.
Yn absenoldeb tystiolaeth terfynol o darddiad y gair hwn, gallwn ddamcaniaethu mai ffurf ar gairfowl yw carfil, ac mai’r carfil mawr oedd y carfil cyntaf i ddwyn yr enw. Mae’r enw gyda ni o hyd yn y gair am y little auk, y carfil bach, sydd, yn wahanol i’w frawd mawr, yn ffynnu o hyd ym mharthau’r gogledd ac yn niferus yno yn ystod ac ar ôl tywydd stormus.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
- ↑ 2.0 2.1 del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
- ↑ 3.0 3.1 ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.