Y De Eithaf

(Ailgyfeiriad o Perfeddion y De)

Rhanbarth yn Ne Unol Daleithiau America yw'r De Eithaf,[1] Pellafoedd y De,[1] neu Berfeddion y De[1] (Saesneg: the Deep South) sydd fel rheol yn cynnwys taleithiau Louisiana, Mississippi, Alabama, Georgia, a De Carolina.[2] Weithiau cynhwysir taleithiau cyfagos, neu rannau ohonynt, yn enwedig dwyrain Texas, gogledd Florida, gorllewin Tennessee, neu ddwyrain a de Arkansas. Nodweddir y rhanbarth gan ddiwylliant arbennig, hanes ac economi cyffredin, a'i ddaearyddiaeth.

Y De Eithaf
Mathisranbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAlabama, Georgia, Louisiana, Mississippi, De Carolina Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Hanes cythryblus o ran hil sydd gan y De Eithaf: caethwasiaeth y bobl dduon a chaethgludo'r brodorion, Rhyfel Cartref America a'r Ailymgorfforiad, arwahanu a deddfau Jim Crow, a'r mudiad hawliau sifil—a demograffeg gymysg yn bennaf o bobl wynion a phobl dduon. Hinsawdd gynnes sydd yma, a seilir yr economi yn hanesyddol ar amaeth, yn enwedig ffermio cotwm a thybaco. Dyma gadarnle'r diwylliant Deheuol, a nodweddir gan gerddoriaeth werin megis canu gwlad a'r felan, gwerthoedd ystrydebol megis "lletygarwch y De", a choginiaeth bwyd cysur. Mae dinasoedd mwyaf y rhanbarth yn cynnwys Atlanta, Georgia, New Orleans, Louisiana, Birmingham, Alabama, a Greenville, De Carolina.

Yr oedd y pump talaith craidd a ystyrir yn y De Eithaf yn cyfri am ran fawr o diriogaeth Taleithiau Cydffederal America; y taleithiau eraill oedd Florida, Texas, Virginia, Arkansas, Tennessee, a Gogledd Carolina. Mae'r De Eithaf yn gorgyffwrdd i raddau helaeth ag Ardal y Cotwm, a'r Gwregys Du. Fe'i gelwir hefyd gan yr enw De'r Iseldir, mewn cyferbyniad â De'r Ucheldir i'r gogledd.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, "deep: the Deep South".
  2. (Saesneg) "Deep South", Britannica Dictionary. Adalwyd ar 1 Medi 2023.

Darllen pellach golygu

  • Adam Rothman, Slave Country: American Expansion and the Origins of the Deep South (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 2005).