Peris

sant Cymreig o'r 6g

Sant Cymreig oedd Peris (bl. 6g efallai) a gysylltir ag Eryri a Gwynedd.

Peris
Sant Peris ar ffenestr yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis.
GanwydCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach, arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl11 Rhagfyr Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Ychydig a wyddys amdano, ac nid oes buchedd iddo wedi goroesi. Mae cyfeiriad ato ym Monedd y Saint, lle dywedir iddo fod yn Gardinal yn Rhufain. Efallai ei fod yn fab i Helig ap Glannog o Dyno Helig.[1]

Nant Peris golygu

Cysegrwyd eglwys Nant Peris yng Ngwynedd iddo; hwn yw'r sefydliad gwreiddiol, a datblygodd Llanberis gerllaw yn ddiweddarach.[1] Mae eglwys Llanberis wedi ei chysegru i sant Padarn yn hytrach na Peris. Ceir Ffynnon Peris (neu Ffynnon y Sant) yn Nant Peris. Rhoddodd ei enw i Lyn Peris.

Ei wylmabsant yw 11 Rhagfyr.[1]

Cyfeiriadau golygu