Perkin Warbeck
Roedd Perkin Warbeck (tua 1474 - 23 Tachwedd 1499) yn ymhonnwr i orsedd Lloegr. Honnwyd mai Rhisiart o Amwythig, Dug Efrog, un o feibion Edward IV a garcharwyd yn Nhŵr Llundain ydoedd. Rhisiart, pe bai'n fyw, fyddai wedi bod yn hawliwr haeddiannol i'r orsedd, gan dybio bod ei frawd hynaf Edward V wedi marw, a'i fod yn gyfreithlon, ond roedd hyn yn pwynt dadleuol.
Perkin Warbeck | |
---|---|
Ganwyd | c. 1474 Tournai |
Bu farw | 23 Tachwedd 1499 Tyburn |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | cogiwr |
Priod | Catherine Gordon |
Llinach | Iorciaid |
Wynebodd Harri VII ymdrech i’w ddiorseddu yn 1491 gan Warbeck, a oedd yn fab i gasglwr trethi Ffleminaidd. Cefnogwyd ei gais o dramor gan Frenin Ffrainc, Ymerawdwr Awstria, sef Maximilian I a Margaret, Duges Bwrgwyn, chwaer Rhisiart III. Rhoddwyd cefnogaeth iddo gan Iago IV o’r Alban ac roedd Iwerddon y tro hwn unwaith eto yn cefnogi achos yr Iorciaid wrth gyflwyno Warbeck fel yr her i linach y Tuduriaid.
Dywedai Margaret mai Warbeck oedd ei nai colledig a rhoddodd loches iddo yn Fflandrys, yn yr Iseldiroedd, tra bu ei gefnogwyr yn paratoi a threfnu’r ymosodiad. Methiant fu ymdrechion yr Iorciaid a chipiwyd Warbeck yn Beaulieu, Hampshire yn 1497 a’i grogi am deyrnfradwriaeth yn 1499.
Dangosodd Harri VII ei gynddaredd tuag at rôl Fflandrys yn ymdrech Perkin Warbeck drwy yrru allan pob un o’r Fflemiaid oedd yn Lloegr.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Perkin Warbeck | English pretender". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-15.