Pentref tu allan i Llundain, ym Middlesex, sydd nawr yn rhan o Ddinas Westminster, oedd Tyburn. Mae'n enwog fel safle'r crocbren, a ddefnyddid am ganrifoedd fel y prif safle ar gyfer gweinyddu'r gosb eithaf yn ardal Llundain.

Tyburn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Sefydlwyd
  • 11 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5129°N 0.164°W Edit this on Wikidata
Map

Cofnodir y dienyddiad cyntaf yn 1196, pan grogwyd William Fitz Osbern, arweinydd terfysg yn erbyn y trethi yn Llundain. Yn 1571, adeiladwyd yr hyn a elwid y "Tyburn Tree", crocben tair onglog. Defnyddiwyd hwn am y tro olaf ar 3 Tachwedd 1783, pan grogwyd lleidr pen ffordd o'r enw John Austin.

Ymhlith y rhai a ddienyddiwyd yna mae Roger Mortimer, Iarll 1af March (1330), Michael An Gof, arweinydd gwrthryfel y Cernywiaid (1497), Perkin Warbeck (1499), Claude Duval, lleidr pen ffordd enwog (1670), Sant Oliver Plunkett, Archesgob Armagh a Jonathan Wild (1725. Dienyddiwyd nifer o Gymry yma, yn cynnwys Rhys Ddu ap Gruffudd, un o ddilynwyr Owain Glyndŵr, yn 1410, yr ysgolhaig William Thomas (1554) a'r merthyron Catholig Sant John Roberts yn 1610 a Philip Powell yn 1646.

The Idle 'Prentice Executed at Tyburn gan William Hogarth, o'r gyfres Industry and Idleness (1747)