Peter Havard-Williams

Llyfrgellydd o Gymro oedd Peter Havard-Williams (11 Gorffennaf 1922 – 16 Awst 1995).[1] Roedd yn allweddol mewn datblygiad adrannau llyfrgellyddiaeth a gwyddor gwybodaeth (LIS) mewn prifysgolion ac yn ymgynhorydd i sawl sefydliad ar reoli llyfrgelloedd.

Peter Havard-Williams
Ganwyd11 Gorffennaf 1922 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1995 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Queen's, Kingston, Edit this on Wikidata

Cafodd ei benodi i swyddi yn llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Lerpwl, ac yn brif lyfrgellydd Prifysgol Otago yn Dunedin.

Sefydlodd yr Ysgol Lyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth ym Mhrifysgol y Frenhines, Belffast yn 1964, a bu'n llyfrgellydd y brifysgol honno o 1965 i 1971. Treuliodd y cyfnodd 1971–72 yn ddeon ac athro yn Ysgol y Llyfrgell, Prifysgol Ottawa. Bu'n bennaeth ar yr Adran Lyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth ym Mhrifysgol Loughborough o 1972 i 1987.

Bu'n ymgynghorydd a phrif lyfrgellydd Cyngor Ewrop yn 1986–87, a chafodd ei benodi'n athro a phennaeth ar Adran Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth ym Mhrifysgol Botswana yn 1988.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Peter Havard-Williams. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mehefin 2018.
  2. (Saesneg) David M. Baker, "Obituary: Peter Havard-Williams", The Independent (6 Medi 1995). Adalwyd ar 9 Mehefin 2018.