Prifysgol y Frenhines, Belffast
Lleolir Prifysgol y Frenhines, sy'n aelod o Grŵp Russell, ym Melffast, Gogledd Iwerddon. Fe'i sefydlwyd ym 1845 fel un o dri coleg Prifysgol y Frenhines yn Iwerddon; roedd y lleill yng Nghorc a Galway. Prifysgol anenwadol oedd hon, am fod Coleg y Drindod, Dulyn ar gyfer myfyrwyr Anglicanaidd yn unig ar y pryd. Cynlluniwyd y prif adeilad ym 1849 gan Syr Charles Lanyon. Mae dau o gyn-fyfyrwyr y brifysgol wedi ennill Gwobr Nobel, sef Seamus Heaney (Gwobr Lenyddol Nobel 1995) a David Trimble (Gwobr Heddwch Nobel 1998).[1]
Adeilad Lanyon, Prifysgol y Frenhines | |
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, prifysgol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Belffast |
Cyfesurynnau | 54.5842°N 5.9347°W |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) History And Heritage. Prifysgol y Frenhines, Belffast. Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol