Cyflafan Peterloo
Ddigwyddiad ym Manceinion, Lloegr, ar 16 Awst 1819 oedd Cyflafan Peterloo (Saesneg: Peterloo Massacre), pan ymosododd marchfilwyr ar dorf o tua 60,000 o bobl a oedd wedi ymgynnull yn heddychlon ym Maes San Pedr ("St Peter's Field") i alw am ddiwygio cynrychiolaeth seneddol. Y canlyniad oedd llawer o farwolaethau a channoedd o anafiadau.
Math o gyfrwng | cyflafan |
---|---|
Dyddiad | 16 Awst 1819 |
Lladdwyd | 16 |
Lleoliad | Manceinion |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ôl un sylwebydd, Cyflafan Peterloo oedd "digwyddiad gwleidyddol mwyaf gwaedlyd y 19eg ganrif ar bridd Lloegr", ac roedd yn "ddaeargryn gwleidyddol ym mhwerdy gogleddol y chwyldro diwydiannol".[1]
Y cyfarfod a'r ymosodiadau
golyguYn ystod y cyfnod hwn, cyfnod o gwymp economaidd, diweithdra, a phrisiau a threthi uchel, ychydig iawn o bobl oedd yn gymwys i bleidleisio – tua 11% o ddynion. Roedd y Chwyldro Diwydiannol wedi creu canolfannau trefol dwys eu poblogaeth a oedd â chynrychiolaeth arbennig o wael yn Nhŷ'r Cyffredin. Ceisiodd diwygwyr radical, ar ôl trefnu deiseb aflwyddiannus dros ddiwygio seneddol, ysgogi torfeydd mawr i roi pwysau ar lywodraeth y wlad. Roedd y mudiad yn arbennig o gryf yng ngogledd-orllewin Lloegr, lle trefnodd Undeb Gwladgarol Manceinion (Manchester Patriotic Union) gyfarfod torfol ym mis Awst 1819, a anerchwyd gan Henry Hunt, areithiwr radical adnabyddus.
Yn fuan ar ôl i'r cyfarfod ddechrau, rhoddodd ynadon lleol gyfarwyddyd i'r iwmyn (Manchester and Salford Yeomanry) i arestio Hunt a sawl un arall ar y platfform gydag ef. Ymosododd yr iwmyn ar y dorf, gan guro dynes i'r llawr a lladd plentyn, a dal Hunt o'r diwedd. Yna dywedwyd wrth y 15fed King's Hussars, catrawd marchfilwyr, i wasgaru'r dorf. Defnyddiodd y milwyr gleddyfau sabr i ymosod. Lladdwyd tua 17 o bobl ac anafwyd tua 600 yn y dryswch a ddilynodd. Roedd y meirw a'r clwyfedig yn cynnwys menywod a phlant.
Canlyniadau
golyguCafodd y digwyddiad ei alw'n "Cyflafan Peterloo" gan bapur newydd radical y Manchester Observer, gan gyfeirio'n gellweirus at Frwydr Waterloo a ddigwyddodd bedair blynedd ynghynt.
Arswyd a ffieidd-dra at weithredoedd yr awdurdodau oedd barn y cyhoedd ledled Lloegr, ond ymateb uniongyrchol y llywodraeth oedd llunio cyfres o ddeddfau gormesol (y "Chwe Deddf") a oedd â'r nod o atal unrhyw gyfarfodydd at ddibenion diwygio radical.
Cyhuddwyd Henry Hunt ac wyth dyn arall o sedition (annog gwrthryfel). Ar ôl pythefnos o achos ym Mrawdlys Caerefrog ym mis Mawrth 1820, dyfarnwyd pum diffynnydd yn euog. Dedfrydwyd Hunt i 30 mis o garchar. Rhoddwyd blwyddyn yr un i dri arall, a charcharwyd y pumed dyn am ddwy flynedd ar gyhuddiad dilynol.
Cyfarwyddodd y llywodraeth yr heddlu a'r llysoedd i erlid newyddiadurwyr, gweisg a chyhoeddi'r Manchester Observer. Arestiwyd y golygydd a'i ddyfarnu'n euog o gynhyrchu cyhoeddiad anogol i wrthryfel. Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar a dirwyo £100.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert Poole, Peterloo: The English Uprising (Rhydychen, 2019), tt.1–2