Pethau Bychain
Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg ar-lein ac i annog mwy o bobl i gymeryd rhan yn y diwylliant digidol Cymraeg. Bwriad y diwrnod yw annog mwy o bobl i greu fideos, podlediadau, blogio neu ysgrifennu e-farddoniaeth.[1] Ar 3 Medi, 2010, cynhaliwyd y diwrnod cyntaf.
Daeth y syniad o gael diwrnod Pethau Bychain o ddiwrnod Ada Lovelace. Sefydlwyd y diwrnod fel menter wirfoddol a chydweithredol gan nifer o bobol oedd yn weithgar arlein drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ple ddigidol i Gymry Cymraeg Gwefan Newyddion y BBC. 03-09-2010. Adalwyd ar 07-09-2010
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol - Archifwyd 2012-10-19 yn y Peiriant Wayback
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.