Phuntsog Namgyal
Chogyal (brenin) cyntaf Teyrnas Sikkim, sydd yn un o daleithiau India heddiw, oedd Phuntsog Namgyal (1604–1670). Cafodd ei gysegru yn chogyal yn 1642 yn 38 oed. Roedd Phuntsog yn ddisgynnydd yn y bumed ach o Guru Tashi, tywysog o'r 13g yn Nhŷ Mi-nyak yn Kham, dwyrain Tibet.
Phuntsog Namgyal | |
---|---|
Ganwyd | 1604 Gangtok |
Bu farw | 1670 Yuksom |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Chogyal |
Plant | Tensung Namgyal |
Llinach | Namgyal Dynasty of Sikkim |
Yn ôl y chwedl, roedd Guru Rinpoche, sant Bwdhaidd Tibetaidd o'r 9g, wedi rhagweld y byddai un "Phuntsog o'r dwyrain" yn dod yn chogyal Sikkim. Yn 1642, daeth tri lama o Dibet i chwilio amdano. Ger safle y Gangtok bresennol daethant ar draws dyn yn gwneud iogwrt. Cawsant groeso anrhydeddus a daethant i sylweddoli mae hwn oedd y dyn roeddent yn chwilio amdano. Coronwyd Phuntsog ar safle chorten Norbughang yn Yuksom, yn y bryniau coediog, lle sefydlodd ei brifddinas.
Gyda chymorth y tri lama, aeth Phuntsog ati i droi'r bobl Lepcha leol yn Fwdhyddion ac ehangodd ei deyrnas i gyfeiriad y dwyrain i fyny i Ddyffryn Chumbi yn Nhibet, dros y Nathu La, i'r de i gynnwys ardal bresennol Darjeeling, a rhannau o ddwyrain Nepal.
Rhanwyd y deyrnas newydd yn ddeuddeg Dzong (ardal) dan reolaeth dzongpon (llywodraethwr) Lepcha. Cofir Phuntsog heddiw fel y brenin a sefydlodd yr enwad Nyingmapa ("Yr Hetiau Cochion") yn Sikkim. Cafodd ei olynu gan ei fab Tensun Namgyal in 1670.