Yuksom
Pentref hanesyddol ym mryniau gorllewin Sikkim, gogledd-ddwyrain India, yw Yuksom (weithiau Yaksum neu Yaksung mewn hen lyfrau). Mae'n fan cychwyn teithiau cerdded i'r mynyddoedd, wrth droed Kanchenjunga yn yr Himalaya. Mae Afon Rangeet yn llifo heibio i'r pentref.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gyalshing district |
Gwlad | India |
Uwch y môr | 1,780 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 27.3692°N 88.2222°E |
Yn y 17g, daeth Yuksom yn brifddinas gyntaf Sikkim (Gangtok yw'r brifddinas heddiw). Fe'i cysegrwyd yn brifddinas y deyrnas fechan annibynnol yn 1642 ar ôl i dri lama uchel eu parch ddod yno o gyfeiriad y gogledd, y gorllewin a'r de i gysegru Phuntsog Namgyal yn Chogyal (brenin) cyntaf Sikkim ac felly hefyd osod sylfeini enwad Bwdhaidd Tibetaidd y Nyingmapa yn Sikkim. Erys chorten Norbugang ("Gorsedd y Coroni") i nodi'r safle yn Yuksom.
Yn 1670 symudodd ei fab, Tensung Namgyal, y brifddinas o Yuksom i Rabdentse.
Ceir mynachlog Dibetaidd Dubdi Gompa, a sefydlwyd yn 1701, ger y pentref.
Gellir cyrraedd Yuksom gyda bws neu jeep o Gangtok neu Darjeeling, trwy Tashiding.