Pibydd du

rhywogaeth o adar
Pibydd du
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Calidris
Rhywogaeth: C. maritima
Enw deuenwol
Calidris maritima
(Brünnich, 1764)
Calidris maritima maritima

Mae'r Pibydd du (Calidris maritima) yn aelod o deulu'r rhydyddion.

Mae'r Pibydd du yn nythu yng ngogledd Ewrop a gogledd Canada. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, gyda'r adar sy'n nythu yn Ewrop yn mynd cyn belled a Portiwgal. Adeiledir y nyth ar lawr, ac mae'n dodwy 3-4 wy. Y ceiliog sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith gori ac edrych ar ôl y cywion.

Gellir adnabod y Pibydd du oherwydd ei fod yn dywyllach ar y cefn na'r rhan fwyaf o'r rhydyddion eraill, gyda bol gwyn a choesau melyn a bôn melyn i'r pig. Yn y gaeaf mae yn bwydo ar hyd glannau'r môr, ond mewn ardaloedd creigiog yn hytrach na lle mae tywod neu fwd.

Mae'r Pibydd Du yn aderyn gweddol gyffredin ar draethau creigiog yng Nghymru yn ystod y gaeaf.