Ardal adnabyddus yn Ninas Westminster, canol Llundain, yw Piccadilly Circus. Mae'n enwog am y cerflun o Anteros (a elwir yn boblogaidd yn Eros) sy'n coffa Iarll Shaftesbury, dyngarwr o'r 19eg ganrif, a hefyd am yr hysbysebion ar un o'r adeiladau yno. Cynlluniwyd Piccadilly Circus yn wreiddiol ym 1819 gan John Nash, fel rhan o gynllun i weddnewid strydoedd y West End ar gyfer y Tywysog Rhaglaw. Cyfeiria'r gair "circus" at siap crwn y groesffordd a oedd yn cysylltu Piccadilly a Regent Street, ac er nad yw'n grwn bellach mae wedi cadw yr enw. Lleolir gorsaf tiwb Piccadilly Circus yno.
Piccadilly Circus |
Math | cyffordd, atyniad twristaidd  |
---|
|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
---|
Cysylltir gyda | Regent Street, Piccadilly, Shaftesbury Avenue, Haymarket, Coventry Street, Glasshouse Street  |
---|
Sefydlwyd | - 1819

|
---|
Daearyddiaeth |
---|
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
---|
Gwlad | Lloegr |
---|
Cyfesurynnau | 51.51°N 0.1344°W  |
---|
 |
|
|