Picteg

iaith

Roedd Picteg yn iaith Frythonig ddiflanedig o'r teulu Celtaidd o ieithoedd a siaredid gan y Pictiaid, pobl hynafol a drigai yng ngogledd yr Alban.

Mae rhai ysgolheigion, yn fwyaf nodedig Kenneth Jackson, wedi dadlau nad oedd Picteg yn iaith Indo-Ewropeaidd. Fodd bynnag, barn y mwyafrif o ysgolheigion erbyn hyn yw ei bod yn iaith Geltaidd yn perthyn i'r teulu Brythonig. Ceir nifer o elfennau mewn enwau lleoedd yn yr ardaloedd lle trigai'r Pictiaid sy'n debyg iawn i eiriau Cymraeg, er enghraifft aber, monid (mynydd) a lanerc (llannerch).

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.