Celteg Ynysig

Mae ieithoedd Celteg Ynysig yn un o ddwy ganeg yr ieithoedd Celtaidd yn ôl un theori. Y gangen arall yw Celteg y Cyfandir.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolteulu ieithyddol Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Celtaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysieithoedd Brythonaidd, ieithoedd Goedelaidd Edit this on Wikidata

Rhennir yr ieithoedd Celteg Ynysig yn ddwy gangen: Goedeleg, a elwir weithiau'n Gelteg Q, sy'n cynnwys Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg yr Alban, a Brythoneg a elwir weithiau'n Gelteg P, sef Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.

Gelwir hwy yn ieithoedd "Ynysig" gan eu bod, yn ôl y theori yma, wedi datblygu ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon, er mai ar y cyfandir y siaredir Llydaweg heddiw. Oherwydd hyn, mae gan yr ieithoedd yma berthynas agosach â'i gilydd na chydag ieithoedd cyfandirol, megis Celtibereg a Galeg.

Gellir crynhoi tarddiad yr ieithoedd hyn fel a ganlyn:

Dengys y tabl canlynol datblygiad y Proto-Gelteg *ynganiad: [/kʷ/] hyd at ynganiad: [/p/] yn y Galeg a'r Frythoneg ond i ynganiad: [/k/] yn yr ieithoedd Goedeleg (neu ieithoedd Gaeleg).

Proto-Gelteg Galeg Cymraeg Cernyweg Llydaweg Gwyddeleg Gaeleg Manaweg Saesneg er cyferbyniaeth
*kʷennos pennos pen penn penn ceann ceann kione "head"
*kʷetwar- petuarios pedwar peswar pevar ceathair ceithir kiare "four"
*kʷenkʷe pinpetos pump pymp pemp cúig còig queig "five"
*kʷeis pis pwy piw piv cé (older cia) cò/cia quoi "who"
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Chwe Chenedl Geltaidd syml.png
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg
Flag of Cornwall.svg
Flag of Wales.svg
Flag of Ireland.svg
Flag of the Isle of Mann.svg
Flag of Scotland.svg
Llydaweg ·Cernyweg ·Cymraeg |Gwyddeleg ·Manaweg ·Gaeleg yr Alban
Ccross.png
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd