Rhyddfrydiaeth
Ideoleg ac athroniaeth wleidyddol a'i gwreiddiau yn yr Oleuedigaeth yw rhyddfrydiaeth, a rhyddid personol a gwelliant cymdeithasol yn greiddiol iddi. Mewn gwleidyddiaeth fodern, ystyrir fod amcanion tebyg i ryddfrydiaeth a democratiaeth, sef newid y gyfundrefn gymdeithasol â chefnogaeth y bobl. Yn wahanol i radicaliaeth, lle caiff newid cymdeithasol ei ystyried yn nod sylfaenol, a seilir yr athroniaeth ar egwyddorion newid awdurdod, mae rhyddfrydiaeth yn anelu at newid cymdeithasol yn raddol, ystwyth ac addasol.
Rhyddfrydiaeth ddiwylliannol golygu
Canolbwyntia rhyddfrydiaeth ddiwylliannol ar hawliau'r unigolyn yn nhermau cydwybod a dull o fyw, gan gynnwys rhyddid rhywiol, crefyddol a gwybyddol, a diogelwch rhag ymyrraeth lywodraethol yn y bywyd personol. Cafwyd gan John Stuart Mill driniaeth arloesol o'r cysyniad o ryddfrydiaeth ddiwylliannol yn ei draethawd On Liberty. Yn gyffredinol, mae rhyddfrydiaeth ddiwylliannol yn gwrthwynebu rheolaeth neu sensoriaeth lywodraethol yng nghyd-destun llenyddiaeth, celf, gamblo, rhyw, puteindra, rheoli cenhedlu, erthylu, ewthanasia, alcohol, a rhai cyffuriau eraill. Mae'r mwyafrif o ryddfrydiaid yn gwrthwynebu ymyrraeth mewn o leiaf rai o'r materion hyn, a weithiau'r cyfan.