Pierre Choderlos de Laclos

Llenor o Ffrancwr oedd Pierre Ambroise François Choderlos de Laclos (18 Hydref 17415 Medi 1803), a aned yn Amiens, Ffrainc.

Pierre Choderlos de Laclos
Pierre Choderlos de Laclos (Portread a briodolir i Alexander Kucharski, 1741–1819, Amiens, Musée de l'hôtel de Berny)
Ganwyd18 Hydref 1741 Edit this on Wikidata
Amiens Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1803 Edit this on Wikidata
o malaria Edit this on Wikidata
Taranto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dyfeisiwr, nofelydd, swyddog milwrol, rhyddieithwr, newyddiadurwr, swyddog Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLes Liaisons dangereuses Edit this on Wikidata
ArddullNofel epistolaidd Edit this on Wikidata
PriodMarie Soulange Duperré Edit this on Wikidata

Swyddog artileri yn y fyddin Ffrengig oedd Laclos wrth ei alwedigaeth. Roedd yn fab i glerc canolradd yn Amiens lle cafodd ei eni yn 1749. Graddiodd fel swyddog artileri o ysgol filwrol La Fère yn 1763 ond yn yr un flwyddyn arwyddwyd Cytundeb Paris (1763) a ddaeth â heddwch i Ffrainc am 30 mlynedd a chafodd Laclos ei hun mewn sefyllfa diflas o wasanethu mewn garsiynau rhanbarthol heb obaith o ddyrchafiad.

Pan ymledodd fflam gwerinaetholdeb trwy Ffrainc adeg y chwyldro yn America yn 1779 ymroddodd Laclos i lenydda. Yn 1782 cyhoeddodd ei waith mwyaf adnabyddus, y nofel epistolaidd Les Liaisons dangereuses, ar ffurf cyfres o lythyrau rhwng Valmont a Madame Merteuil, sy'n portreadu moesau gwyriedig rhai elfennau o'r dosbarth uchel yn Ffrainc yn ail hanner y 18g.

Mae ei weithiau eraill yn cynnwys De l'Education des Femmes (1785) a'r feirniadaeth lenyddol ddychanol Lettre à MM. de l'Academie Française sur l'Eloge de Vauban (1786). Yn y flwyddyn honno priododd Marie Duperré, y wraig y byddai'n ffyddlon iddi am weddill ei oes.

Yn 1788 cafodd swydd gyda'r Dug Orléans ac aeth efo fo i Lundain yn sgîl Goregyniad y Bastille. Ar ei ddychweliad i Paris bu'n aelod ymroddgar o'r Club des Jacobins. Cafodd ei benodi'n llywodraethwr cyffredinol ar y tiriogaethau Ffengig yn India lle cafodd ei garcharu am gyfnod am ei gefnogaeth i blaid yr Orléanistes. Ar ôl dychwelyd i Ffrainc ymyrodd ei gyfaill Thermidor i achub ei groen yn ystod dyddiau duaf y Chwyldro Ffrengig ac ysgrifennodd draethawd ar ryfel a heddwch, De la Guerre et de la Paix. Bu farw yn 1803 yn Tarento tra'n gwasanaethu fel cadfridog yn yr artileri.

Camfernir ei nofel enwog yn aml am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,

Peut-être ces mêmes Liaisons dangereuses, tant reporchées aujourd'hui par les femmes, sont une preuve assez forte que je me suis beaucoup occupé d'elles.
(Efallai'n wir bod y Liaisons dangereuses hynny eu hunain, a feirniadir gymaint gan y merched, yn brawf digon cryf fy mod wedi ymroi llawer i'w hachos.)

Llyfryddiaeth golygu

Roger Vailland, Laclos par lui-même (Paris, 1953)