Pileri'r Greadigaeth

Ffotograff gan Delesgop Gofod Hubble o'r hyn a elwir yn "drynciau eliffant o nwy a llwch" rhyngserol a leolir yn Nifwl yr Eryr yw Pileri'r Greadigaeth (Saesneg: Pillars of Creation). Mae'r ffotograff yn dangos cytser Serpens sydd tua 6,500–7,000 o flynyddoedd golau o'r Ddaear.[1] Maent wedi'u henwi felly oherwydd bod y nwy a'r llwch yn y broses o greu sêr newydd, tra hefyd yn cael eu herydu gan y golau o sêr cyfagos sydd newydd eu ffurfio.[2] Fe'i cymerwyd ar 1 Ebrill 1995, ac fe'i henwyd ymhlith deg uchaf o ffotograffau Hubble gan Space.com.[3] Jeff Hester a Paul Scowen o Brifysgol Talaith Arizona oedd y seryddwyr oedd yn gyfrifol am y llun. Ail-dynnwyd ffotograffau o'r rhanbarth gan Arsyllfa Ofod Herschel ESA yn 2011, ac eto gan Hubble yn 2014 gyda chamera newydd.

A Hubble photo of three gas pillars in the Eagle Nebula. Some squares in the upper-right of the image are black and contain nothing.
Llun o Bileri'r Greadigaeth y Nifwl yr Eryr a gymerwyd gan y telesgop Hubble

Mae'r enw yn seiliedig ar ymadrodd a ddefnyddiwyd gan Charles Spurgeon yn ei bregeth ar ymostyngiad Crist ("Condescension of Christ").[4] Yn y bregeth, mae Spurgeon yn defnyddio'r ymadrodd nid yn unig i gyfeirio at y byd ffisegol ond hefyd at y grym sydd yn dal y cyfan at ei gilydd, ac yn tarddu o'r dwyfol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Clavin, Whitney. "'Elephant Trunks' in Space". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 9 Mawrth 2011.
  2. Embryonic Stars Emerge from Interstellar "Eggs" Archifwyd 2016-12-11 yn y Peiriant Wayback., Hubble news release
  3. Best Hubble Space telescope images from Space.com. Copi archif
  4. David H. Devorkin and Robert W. Smith. (2015). The Hubble Cosmos. National Geographic Magazine, page 67