Pilgwenlli

cymuned yn ninas Casnewydd

Cymuned yn ninas Casnewydd yw Pilgwenlli (Seisnigiad: Pillgwenlly).[1] Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,333.

Pilgwenlli
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwynllyw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5822°N 2.99°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000827 Edit this on Wikidata
Cod OSST315875 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJayne Bryant (Llafur)
AS/auRuth Jones (Llafur)
Map

Saif i'r de o ganol y ddinas, lle mae Camlas Sir Fynwy yn ymuno ag afon Wysg. Hon yw ardal dociau Casnewydd; er bod y rhan fwyaf o Ddoc y Dref wedi ei lenwi bellach, mae Dociau Alexandra yn parhau i fod a dŵr ynddynt. Ceir marchnad wartheg fawr yn Stryd Ruperra.

Roedd y bardd W. H. Davies yn enedigol o Bilgwenlli.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ruth Jones (Llafur).[2][3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pilgwenlli (pob oed) (7,318)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pilgwenlli) (595)
  
8.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pilgwenlli) (4628)
  
63.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Pilgwenlli) (1,313)
  
44.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru: Pilgwenlli". Comisiynydd y Gymraeg.[dolen marw]
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]