Plaid Flaengar y Gweithwyr
Plaid gomiwnyddol yng Nghyprus yw Plaid Flaengar y Gweithwyr (Groeg: Ανορθωτικό Κόμμα Εργαζόμενου Λαού, Anorthotikó Kómma Ergazómenou Laoú, AKEL; Tyrceg: Emekçi Halkın İlerici Partisi). Sefydlwyd y blaid yn 1926 fel 'Plaid Gomiwnyddol Cyprus'. Mae'n cefnogi'r egwyddor o Gyprus annibynnol, anfilwrol, ac ateb ffederal i broblemau mewnol Cyprus. Mae'n rhoi pwyslais arbennig ar fod yn gytun gyda'r Cypriaid Tyrcaidd. Cefnogodd ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd (gyda rhai amheuon) ac mae'n perthyn i grŵp y Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig yn Senedd Ewrop.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | comiwnyddiaeth, Marcsiaeth–Leniniaeth, progressivism |
Label brodorol | Ανορθωτικό Κόμμα Εργαζόμενου Λαού |
Dechrau/Sefydlu | 1926 |
Pennaeth y sefydliad | General Secretary of the Progressive Party of Working People |
Rhagflaenydd | Communist Party of Cyprus |
Aelod o'r canlynol | Party of the European Left |
Pencadlys | Nicosia |
Enw brodorol | Ανορθωτικό Κόμμα Εργαζόμενου Λαού |
Gwladwriaeth | Cyprus |
Gwefan | http://www.akel.org.cy/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |