Plaid Glyndŵr
Plaid wleidyddol Gymreig asgell dde yw Plaid Glyn Dŵr.[1] Ei phrif nod yw ennill annibyniaeth i Gymru y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.[1] Enwir y blaid newydd hon ar ôl y Tywysog Owain Glyndŵr. Mae'n blaid weriniaethol sy'n gwrthod y teulu brenhinol Prydeinig.
Sefydlwyd y blaid gan Dennis Morris; ef yw'r cadeirydd presennol hefyd.[2]
Ymhlith amcanion y blaid y mae:
- Ymgyrchu dros Gymru annibynnol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
- Ymgyrchu dros swyddi Cymreig o flaen unrhyw bolisiau gwyrdd Prydeinig.
- Gwrthwynebu pob cynllun fydd yn bygwth neu ddinistrio hunaniaeth genedlaethol y Cymry.
- Yr hawl i Gymru reoli ei hadnoddau naturiol ei hun.
- Ymgeisio mewn etholiadau Cymuned, tref a Sir.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Plaid genedlaetholgar newydd i Gymru golwg360.com 30 Tachwedd 2013; adalwyd 14 Tachwedd 2013
- ↑ "Gwefan Plaid Glyndŵr: Ideology". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-12. Cyrchwyd 2013-11-13.
Dolen allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2013-11-12 yn y Peiriant Wayback