Plas Cilgwyn
Plasdy a godwyd yn niwedd yr 1870au ydy Plas Cilgwyn, yng nghymunedau Llandyfriog ac Adpar, Castellnewydd Emlyn, Ceredigion. Cafodd ei godi gan deulu Fitzwilliam yn lle'r hen neuadd a safodd yma. Prynwyd y grisiau yn Arddangosfa Paris ym 1875 a'i gludo yma i Adpar mewn llong. Codwyd y plasdy oddeutu'r grisiau derw, trillawr. Mae'n debyg mai o chwarel Cilgerran, gerllaw, y daeth y garreg, gyda thenantiaid y teulu'n cael eu gorfodi i'w cludo. Mae'r Afon Ceri'n rhedeg drwy'r gerddi.[1]
Math | plasty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystad Cilgwyn |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.049555°N 4.456886°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ceir hen luniau o dŵr mawreddog, plwm uwch ben y drws ffrynt, ond fe'i dymchwelwyd oherwydd ei fod yn rhy drwm i'r waliau ei gynnal. Yn yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y plasdy fel ysbyty ar gyfer milwyr Americanaidd. Gan fod y teulu'n ddirwestwyr, ni cheir namyn un seler, lle safodd y boiler glo. Saif yr Hen Gastell gerllaw lle dywedir i Ddraig Goch Cymru gael ei geni.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ["Walesdirectory.co.uk; adalwyd 15/02/2012; (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-10. Cyrchwyd 2012-02-15. Walesdirectory.co.uk; adalwyd 15/02/2012; (Saesneg)]
Cyfeiriadau
golygu- http://www.cilgwynmansion.pwp.blueyonder.co.uk Archifwyd 2012-01-07 yn y Peiriant Wayback