Llandyfrïog

(Ailgyfeiriad o Llandyfriog)

Pentref bach ar lannau gogleddol Dyffryn Teifi, Ceredigion, yw Llandyfrïog, sy'n cael ei enw o sant Briog.[1]

Llandyfriog
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,835 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,985.04 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52°N 4.4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000374 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae ardal Cyngor Cymuned Llandyfriog yn ymestyn o Horeb yn y dwyrain i Adpar, maes-tref Castellnewydd Emlyn yn y gorllewin ac yn cynnwys pentrefi Aber-banc, Henllan, a Phenrhiw-llan. Yn Adpar, sefydlwyd y wasg gyntaf yng Nghymru ac ymladdwyd yr ornest (duel) olaf yng ngwledydd Prydain. Mae tua deuparth o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond cafodd bron i 40% o drigolion yr ardal eu geni tu allan i Gymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Un hynodrwydd i'r pentref yw ei fod, fel Llandybïe yn sillafu'r i-dot gyda didolnod. Gwneir hyn er mwyn dangos bod yr i-dot yn cael ei ynganu fel llythyren ar ei phen ei hun.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2007; tud. 522
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.