Plas Coch, Rhuthun
adeiladwaith pensaernïol rhestredig Gradd II yn Rhuthun
Tŷ canoloesol yn Rhuthun, Sir Ddinbych ydyw Plas Coch (neu 24 a 26 Stryd y Ffynnon); mae'n adeilad cofrestredig sydd wedi'i gofrestru fel Gradd II; gwnaed hynny ar 24 Hydref 1950 gan Cadw.[1] Credir iddo gael ei adeiladu'n wreiddiol yn 1613, gan ddefnyddio hen gerrig tywodfaen coch Castell Rhuthun, ar gyfer Cwnstabl y Castell. Ceir dau lawr, gydag atic a cheir pedwar ffenestr fawr ar bob llawr. Yn 1963 fe'i trowyd yn neuadd giniawa gan y perchennog Rees Jones a arferai farchnata yn neuadd bentref Llanfair Dyffryn Clwyd.
Math | adeiladwaith pensaernïol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhuthun |
Sir | Rhuthun |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 63 metr |
Cyfesurynnau | 53.11°N 3.31°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Yn 1977 fe'i trowyd yn Glwb Ceidwadol Rhuthun ac fe'i addaswyd gryn dipyn ar gyfer eu dibenion.[2]
Cafodd ei roi ar y gofrestr gan ei fod yn 'dŷ-trefol o'r C17 gyda gwaith carreg anghyffredin'.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Listed Buildings; adalwyd 7 Hydref 2014
- ↑ Coflein Archifwyd 2014-10-11 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 7 Hydref 2014