Plasma (ffiseg)
Yn nhermau y defnydd o'r gair mewn ffiseg a cemeg, nwy ïoneiddiedig gyda chyfradd neilltuol o electronau rhydd ynddo, yn hytrach na'u bod yn rhwym wrth atom neu moleciwl, yw plasma. Mae gallu y siarsau positif a negyddol, mewn canlyniad, i symud o gwmpas yn gymharol annibynnol oddi ar ei gilydd yn galluogi'r plasma i fod yn drydanol ddargludol fel ei fod yn ymateb yn gryf i feysydd electromagnetig. Mae gan blasma felly briodoleddau gwahanol iawn i eiddo soletau, hylifau ney nwyon ac felly fe'i ystyrir yn gyflwr arbennig o fater. Fel rheol mae plasma i'w cael ar ffurf cymylau tebyg-i-niwl niwtral (e.e. sêr).
Lamp plasma, sy'n arddangos rhai o ffenonemau mwy cymhleth plasma, yn cynnwys edefynnu | |
Enghraifft o'r canlynol | cyflwr sylfaenol mater, cyflwr materol clasurol |
---|---|
Math | nwy, mater |
Yn cynnwys | Ïon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Am ystyron a defnyddau eraill y gair, gweler plasma.