Plinius yr Ieuengaf

cyfreithiwr, awdur ac ynad Rhufeinig (61 – c.113)
(Ailgyfeiriad o Pliny'r Ieuengaf)

Awdur, cyfreithiwr ac athronydd Rhufeinig oedd Gaius neu Caius Plinius Caecilius Secundus, ganwyd fel Gaius neu Caius Plinius Caecilius (61/63 - tua 113), mwy adnabyddus fel Plinius yr Ieuengaf.

Plinius yr Ieuengaf
Ganwydc. 61 Edit this on Wikidata
Como Edit this on Wikidata
Bu farwc. 113 Edit this on Wikidata
Bithynia Edit this on Wikidata
Man preswylVilla Commedia, Lierna, Llyn Como Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, bardd, cyfreithiwr, hanesydd, person milwrol, swyddog, cyfreithegwr, gwas sifil Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, tribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, quaestor, consul suffectus, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEpistulae by Pliny the Younger Edit this on Wikidata
TadUnknown, Plinius yr Hynaf Edit this on Wikidata
MamPlinia Marcella Edit this on Wikidata
Priodllysferch Veccius Proculus, merch Pompeia Celerina, Calpurnia Edit this on Wikidata
PerthnasauPlinius yr Hynaf Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Como yng ngogledd yr Eidal. Roedd yn nai ar ochr ei fam i Plinius yr Hynaf. Bu farw ei dad pan oedd yn ieuanc, a rhoddwyd ef dan ofal Lucius Verginius Rufus. Teithiodd i Rufain, lle bu'n dysgu rhethreg oddi wrth Quintilian a Nicetes Sacerdos o Smyrna. Pan fu farw ei ewythr, Plinius yr Hynaf, yn ystod ffrwydrad Vesuvius yn 79, gadawodd ei stad i Plinius yr Ieuengaf yn ei ewyllys.

Daliodd Plinius nifer o swyddi pwysig; daeth yn gyfaill i'r hanesydd Tacitus a bu Suetonius yn gweithio iddo. Priododd dair gwaith. Credir iddo farw'n sydyn yn Bithynia-Pontus, tua 112 neu 113, pan oedd yn legatus Augusti yno.

Gweithiau golygu

Dywedir i Plinius ddechrau ysgrifennu yn bedair ar ddeg oed, pan ysgrifennodd drasiedi mewn Groeg. Y corff mwyaf o'i waith i oroesi yw'r "Llythyrau" (Epistulae), wedi ei cyfeirio at ffrindiau. Mewn dau lythyr enwog mae'n disgrifio ffrwydrad Feswfiws a marwolaeth ei ewythr, Plinius yr Hynaf. Mewn llythyr arall mae'n gofyn i'r ymerawdwr Trajan am gyngor sut i ddelio a'r Cristionogion.

Cyfeiriadau golygu