İzmir

(Ailgyfeiriad o Smyrna)

Dinas a phorthladd yng ngorllewin Twrci yw İzmir (Groeg: Σμύρνη, Smýrni), hefyd Smyrna. İzmir yw ail borthladd Twrci, ar ôl Istanbul, a thrydedd dinas y wlad, gyda phoblogaeth o 4,130,444 yn 2009). Saif tua 450 km o'r de-orllewin o Istanbul. Hi yw prifddinas talaith İzmir.

İzmir
Mathbwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas â phorthladd Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,320,519 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Mileniwm 3. CC Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethTunç Soyer Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Ancona, Baku, Famagusta, Mostar, Shymkent, Long Beach, Califfornia, Volgograd, Bishkek, Bremen, Odense, Tel Aviv, Bălţi, Tampa, Sousse, Tianjin, La Habana, Kardzhali, Constanța, Mumbai, Plzeň, Split, Türkmenabat, Wuhan, Xiamen, Bukhara, Tref y Penrhyn, Surabaya, Torino, Gogledd Nicosia, Chengdu, Sarajevo, Sir Hamyang, São Paulo, Skopje, Chernivtsi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirİzmir Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd11,891 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawGulf of İzmir, Môr Aegeaidd, Afon Gediz Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAydın, Balıkesir, Manisa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.4°N 27.1°E Edit this on Wikidata
Cod post35000–35999 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of İzmir Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethTunç Soyer Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y ddinas tua 3000 C.C.. Rhwng tua 2000 C.C. a 1200 C.C., roedd yn ffurfio rhan o Ymerodraeth yr Hethiaid. Tua'r flwyddyn 1000 C.C., fe'i poblogwyd gan ymfudwyr o Wlad Groeg ac Anatolia. Yn 688 CC, fe'i cipiwyd gan ddinas Colofon, a daeth yn rhan o Gynghrair Ionia. Newidiodd ddwylo sawl gwaith yn ystod y canrifoedd nesaf. Yn 1922 daeth yn rhan o Dwrci, a gorfodwyd tua miliwn o Roegiaid i adael i ddinas a symud i Wlad Groeg.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.