Hanesydd Rhufeinig oedd Gaius Suetonius Tranquillus (ca. 69/75 - ar ôl 130), a adnabyddir fel rheol fel Suetonius.

Suetonius
GanwydCaius Suetonius Tranquillus Edit this on Wikidata
c. 70, c. 69 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Bu farwc. 126, 140 Edit this on Wikidata
yr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd, ysgrifennydd, cofiannydd, bardd, hynafiaethydd Edit this on Wikidata
Swyddbarnwr, ab epistulis Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Twelve Caesars Edit this on Wikidata
Arddullcofiant Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl yma yn trafod yr hanesydd. Am y cadfridog Rhufeinig a orchfygodd Buddug, gweler Gaius Suetonius Paulinus.

Ganed Suetonius yn Hippo Regius (yn awr Annaba, Algeria), yn fab i Suetonius Laetus, a fu'n ymladd dros yr ymerawdwr Otho yn erbyn Vitellius ym mrwydr gyntaf Bedriacum yn 69.

Roedd yn gyfaill i'r Seneddwr Plinius yr Ieuengaf, a thrwyddo ef daeth i sylw yr ymerodron Trajan a Hadrian. Bu'n gwasanaethu dan Plinius pan oedd Plinius yn broconswl Bithynia Pontus o 110 hyd 112. Yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd i'r ymerawdwr Hadrian, ond yn 122, diswyddodd Hadrian ef am ddangos diffyg parch i'r ymerodres Vibia Sabina. Mae'n posibl ei fod wedi cael ei swydd yn ôl yn nes ymlaen.

Gweithiau golygu

Ei waith enwocaf yw De Vita Caesarum ("Bywydau'r Cesariaid", bywgraffiadau o Iŵl Cesar, Augustus, Tiberius, Caligula, Claudius, Nero, Galba, Otho, Vitellius, Vespasian, Titus a Domitian. Heblaw ychydig lyfrau o'r bywgraffiad o Iŵl Cesar, cadwyd y cyfan o hwn, ond dim ond darnau o'i weithiau eraill sydd ar gael:

  • De Viris Illustribus ("Am ddynion enwog") yn cynnwys:
    • De Illustribus Grammaticis ("Bywydau'r Gramadegwyr")
    • De Claris Rhetoribus ("Bywydau'r Rhethregwyr")
    • De Poetis ("Bywydau'r Beirdd")
    • De historicis ("Bywydau'r Haneswyr")
  • Peri ton par' Hellesi paidion ("Gemau Groegaidd")
  • Peri blasphemion ("Rhegfeydd Groegaidd")

Gwyddir hefyd am nifer o weithiau sydd wedi eu colli.