Drama lwyfan bedair act Gymraeg o waith y llenor Idwal Jones yw Pobl yr Ymylon a gyhoeddwyd ym 1927. Wedi darlledu'r addasiad teledu ohoni yn Hydref 1966, nododd adolygydd teledu Y Cymro bod y ddrama lwyfan wedi "llusgo [...] y ddrama yng Nghymru allan o rigol parchus y parlwr a'r sêt fawr a dadlennu sylfeini gwantan y parchusrwydd a oedd yn hanfod bywyd y genhedlaeth honno".[1]

Pobl yr Ymylon
Clawr y ddrama Pobl yr Ymylon (1927)
Enghraifft o'r canlynoldrama lwyfan hir
Dyddiad cynharaf1927
AwdurIdwal Jones
CyhoeddwrThomas a Parry Abertawe
IaithCymraeg
Mathdrama
Dyddiad y perff. 1af1927

Disgrifiad

golygu

Mae'r ddrama yn adrodd hanes y trempyn Malachi Jones, un o "bobl yr ymylon" sy'n creu gwrthdaro â'r "bobl barchus" o dan arweiniad y blaenor a'r ffermwr Daniel Evans.

Cynnwys

golygu

Fe gychwyn y ddrama yn y sgubor wair, pan ddaw'r llanc ifanc Dafydd i'r golwg ynghanol y gwellt. Nesa ato y mae Malachi [65 oed] ac fe gychwyn y ddau sgwrsio am fwyd ac am "gael Ffydd". Gwelwn fod gan Malachi fwy o Ffydd na Dafydd. Sefydlir bod y ddau yn byw ar "ymylon cymdeithas" ac yn cael eu hystyried fel dau drempyn. Daw hi'n amlwg o'r sgwrs fod Dafydd yn hanu o deulu "da" a phan mae Malachi yn ei herio dros pam ei fod yn cysgu mewn ysgubor, ei ateb yw "Mi ges i digon ar fod yn respectabl." Datgela Dafydd ei fod yn "bregethwr [...] bugel Methodist" tan gwta wythnos yn ôl, ond mae o wedi syrffedu ar y bywyd hwnnw, ac yn dyheu am ryddid. Mae Malachi yn cenfigenu wrtho am mai dyna'n amlwg yw ei freuddwyd yntau, ond mae Dafydd yn ceisio ei berswadio nad yw'r swydd mor ddymunol a delfrydol ag y mae Malachi yn ei gredu.

Daw Catrin i'r sgubor i chwilio am wair, ac mae'r ddau yn cuddio eto yn y gwellt, nes iddi adael. Ond pan ddychwela, mae hi'n gweld Dafydd, ac fe sgwrsia'r ddau. Dadlenir bod Catrin yn byw ar y fferm, ac yn barod i ddod â bwyd i'r ddau. Ceir awgrym o fflyrtio rhwng Dafydd a hithau, a phan gyhoedda bod y gweinidog oedd i fod i bregethu yn y cwrdd fore drannoeth wedi methu cyrraedd [sef Dafydd ei hun] mae Malachi yn cael syniad. Mae o ar fin gwireddu ei freuddwyd o gael pregethu yn y pulpud, gan smalio mai ef yw'r pregethwr gwadd, yn lle Dafydd.

Digwydd Act 2 yn nghegin y fferm 'Cefn Eithin', a chawn gwrdd â Catrin a'i brawd William, ynghyd â'u tad Daniel Evans. Mae'r teulu yn paratoi i fwyta ac yn edrych ymlaen am gyrhaeddiad y gweinidog, sy'n bwrw'r Sul gyda'r teulu. Ynghanol y paratoadau, geilw un o'r blaenoriaid Gruffydd Williams, yn ogystal â dwy ferch "o'r ffeiriau" - yr "hen wraig" Ann a'i merch sy'n "dawnsio" i gyfeiliant telyn ei mam, Angharad. Mae'r ddwy yn gofyn am gael aros yn y sgubor wair, yn sgil y glaw, ac er nad yw'r tad yn fodlon ar y cychwyn, buan iawn y cytuna, ac mae Catrin yn trefnu i fynd â bwyd iddynt. "Y Parchedig Malachi Jones" yw'r ymwelydd nesaf, sef yr henwr a welsom yn Act 1 sydd bellach yn dynwared bod yn bregethwr, fel a drafodwyd ynghynt.

Tu allan i 'Gapel Bethlehem, Llanfair Moyddin' y digwydd Act 3 a hynny ar ddydd 'Y Saboth'. Mae Ann ac Angharad yn aros am orig tu allan i'r Capel ac yn trafod faint o arian gawsant yn y ffair. Mae'r ddwy yn trafod y Capel, gan nad yw Angharad yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd oddi mewn, nac am "Grist". Dadlenir inni bod y fam yn flinedig, ac na ŵyr Angharad pwy yw ei thad. Dywed Ann wrthi ei fod yn un o wŷr y ffeiriau, ond ei bod hi heb ei weld ers rhai blynyddoedd. Agorir un o ffenestri'r Capel gan y gwynt, ac fel glywir llais Malachi yn pregethu oddi mewn. Mae pregeth Malachi yn cyd-redeg gyda'r hyn mae Ann yn ei ddweud tu allan. Mae Ann yn adnabod y llais, ac yn cyhoeddi mai Malachi yw tad Angharad. Daw Dafydd heibio tua diwedd yr Act, ac yn tystio i'r hyn sy'n cael ei ddweud, cyn i'r ddwy ferch fynd oddi yno.

Rydym yn ôl yng nghegin y fferm, fin nos wedi Act 3. Mae Catrin yn dychwelyd o'r Capel ac yn dweud y drefn wrth ei brawd am beidio bod yn yr oedfa. Dychwela ei thad a'r blaenoriaid eraill, a Malachi yn eu canol. Mae pawb yn canmol y bregeth ac mae'r blaenor Lewis Edwards yn datgan y bydd "yn well dyn yfory" ar ôl clywed y fath bregeth. Ynghanol y ganmoliaeth, mae'r blaenor o blismon Tomos Simon yn amau ei fod yn adnabod Malachi o'r ffeiriau. Ynghanol y cynnwrf, daw Angharad i mewn gan ddatgan bod ei mam yn wael iawn yn y sgubor wair. Mae Tomos Simon yn cyhuddo Malachi o fod yn un o ddynion y ffair ac yn "dramp" ac fe dry'r cyfan yn ffrae rhwng y blaenoriaid. Ar gais yr Ann fregus, mae Malachi yn ymweld â'r sgubor tra bod Tomos yn cyflwyno ei wybodaeth a'i dystiolaeth dros ei gyhuddiad i weddill y blaenoriaid. Dychwela Malachi gan gyfaddef y gwirionedd, a datgan bod y cyhuddiad yn wir. Daw Catrin a Dafydd yno, ac Angharad i'w dilyn sy'n cyhoeddi bod ei mam [Ann] wedi marw, ac mai Malachi yw ei thad. Ynghanol ffraeo a dychryn y blaenoriaid, mae Malachi yn gofyn iddynt ystyried ydi neges y bregeth gafodd y fath argraff ar bawb yn newid, o ddadlenu mai trempyn a'u cyflwynodd yn hytrach na gwir bregethwr. Cyhoedda Malachi mai Dafydd yw'r gwir bregethwr y buont yn dyheu amdano, ond ei fod ef bellach wedi dewis bod yn "drempyn". Ar ddiwedd y ddrama, mae Malachi a'i ferch Ann yn ymadael â'r ffermdy, â'r blaenoriaid yn eu penbleth.

Cymeriadau

golygu

"Pobl yr Ymylon"

  • Malachi Jones - Crwydryn, yn byw ar wendidau Cymdeithas.
  • Dafydd - Crwydryn, wedi blino ar weddusrwydd Cymdeithas.
  • Ann - Hen wraig, yn canu'r delyn yn y ffeiriau.
  • Angharad - Merch i Ann, yn dawnsio yn y ffeiriau.

"Pobl Barchus"

  • Daniel Evans - Perchennog Fferm Cefn Eithin a Blaenor.
  • Catrin - Merch i Daniel.
  • Wiliam - Mab i Daniel.
  • Gruffydd Williams - Blaenor
  • Lewis Edwards - Blaenor
  • Tomos Simon - Blaenor
  • Twmi - Gwâs bach, yn dechrau a gorffen ei yrfa yn y chwarae drwy gludo portmanteau: mewn a myned allan.
  • Capelwyr - Yn croesi'r Ilwyfan.

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1920au

golygu

Yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl 1929, llwyfannodd y cwmni 'King's Cross, Llundain' y ddrama fel rhan o gystadleuaeth perfformio drama, a nododd y beirniaid yr Athro E. Ernest Hughes, Richard Hughes a Gwynfor na chafwyd gwell cystadleuaeth ar Iwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Gorchwyl caled yn eu golwg ydoedd ceisio cymharu dau "gwmni rhagorol yn chwarae dwy ddrama sydd yn gwahaniaethu yn hanfodol o ran eu hansawdd a'u hapel."[2]

1960au

golygu

Fel nodwyd uchod, darlledwyd addasiad teledu o'r ddrama yn Hydref 1966 ar y BBC yng Nghymru. George P. Owen oedd y cynhyrchydd [cyfarwyddwr]. Conrad Evans oedd yn portreadu Malachi Jones a Dilys Davies fel y fam, Ann. Beirniadol iawn oedd adolygydd teledu Y Cymro "Meic", am na addaswyd y ddrama a'i chyflwyno fel "museum piece".[1]

1980au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama gan gwmni o actorion lleol yn Nyffryn Conwy, Llanrwst er mwyn codi arian at Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy 1989.

2010au

golygu

Llwyfannwyd addasiad Euros Lewis o'r ddrama gan Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw yn 2015 gyda'r digrifwr Ifan Gruffydd yn portreadu Malachi Jones.[3] Cast: Sion Pennant, Hannah Parr, Sam Jones, Dafydd Edwards, Marie Jones, Lowri Jones, Rhys Griffiths, Dafydd Jones a Dafydd Morse.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Pobl yr Ymylon". Y Cymro. 27 Hydref 1966.
  2. Owain, O.Llew (1948). Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943. Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwasg y Brython.
  3. "Archif". drama. Cyrchwyd 2024-10-12.

Dolenni allanol

golygu

Mae'r ddrama gyfan ar gael i'w darllen yma.