Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

cwmni theatr o Geredigion

Cwmni theatr cydweithredol yw Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw a sefydlwyd ym Mehefin 2005 yn Nhroed y Rhiw, rhwng Cribyn a Dihewyd, Ceredigion. Roedd hyn yn dilyn cyfres o sgyrsiau a oedd yn canolbwyntio ar botensial y ddrama Gymraeg.

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Math
cwmni
Math o fusnes
sefydliad di-elw
Diwydianttheatr
SefydlwydMehefin 2005
PencadlysTroed-y-rhiw

Cyfranodd dros 70 o bobl at y drafodaeth a fu'n ysgogiad i sefydlu'r cwmni, y rhan fwyaf ohonynt yn arweinwyr cymdeithasol a charedigion y ddrama yn y gorllewin. Daw enw’r cwmni o leoliad y trafodaethau hyn, sef festri Capel Annibynnol Troed-y-Rhiw, ym mherfedd cefn gwlad Ceredigion.[1]

Cynyrchiadau

golygu

Ers 2005 mae'r cwmni wedi perfformio dros 25 o gynyrchiadau Cymraeg eu hiaith ledled cymdogaethau'r gorllewin.

2005

  • PLAID LEISIO

2006

  • Linda (gwraig Waldo)
  • Clod y cledd
  • Drwg yn y caws

2007

2008

2009

  • Priodas Cwmffradach
  • Les a'r ffesantyn

2010

  • Y dyn drwg a'r da da
  • Diwedd y byd

2011

  • Y swper olaf
  • Cadwyni yn y cof

2013

  • Noson lawen lawen

2014

  • Sdimbydineud
  • Cofia'n gwlad

2015

  • Parc glas (Addasiad gan Roger Owen o Y Berllan Geirios gan Chekhov)
  • Pobl yr ymylon (Idwal Jones)

2016

  • Yr oruchwyliaeth newydd

2017

  • Panto Pantycelyn
  • Y sioe cneifo
  • Noson lawen lawen Calan Gaea'

2018

  • Y Freuddwyd (yn rhan o ddathliadau 200 mlwyddiant glanio cenhadon Neuaddlwyd ym Madagasgar)
  • Y noson ola' (yn rhan o ddathliadau Cymru-Ohio yn Aberaeron)
  • Noson deyrnged Grett ac Aeron
  • Cymanfa ganu Cwmffradach

Cyfeiriadau

golygu
  1. theatrtroedyrhiw.wixsite.com; gwefan y theatr; adalwyd 2 Rhagfyr 2018.

Dolenni allanol

golygu

Gwefan swyddogol