Pobol Dafydd Iwan
Cyfrol o fywgraffiadau gan y cerddor a'r ymgyrchydd iaith Dafydd Iwan ydyw Pobol Dafydd Iwan a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa yn Rhagfyr 2015.
Awdur | Dafydd Iwan |
---|---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 25 Tachwedd 2015 |
Pwnc | Bywgraffiadau |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781784611606 |
Ceir ynddi bortreadau o dros 50 o Gymry gan gynnwys Kate Roberts, Waldo Williams, Hywel Teifi Edwards, Gwynfor Evans ac Owain Owain. 'Maen nhw i gyd', meddai Dafydd yn rhagair y gyfrol, 'wedi gadael eu marc arnaf i ac ar y byd'... yn bobl yr ystyriaf hi'n fraint cael eu nabod.[1]
Mae Dafydd Iwan yn un o enwogion ein cenedl. Mae'n wleidydd, yn awdur, yn gyflwynydd ac yn ganwr. Mae'n ysgrifennu am rai o fawrion ein cenedl ac yn cynnig rhywbeth newydd i ddarllenwyr. Cyhoeddodd Dafydd Iwan lyfrau niferus a chyfansoddodd ganeuon eiconig.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Tudalen 7