Pol Pot
Pol Pot (talfyriad o Politique Potentielle; Ffrangeg am "potensial gwleidyddol") (wedi ei eni fel Saloth Sar ar 19 Mai 1928-15 Ebrill 1998), oedd arweinydd y Khmer Rouge a phrif weinidog Cambodia o 1976 tan 1979. Enw swyddogol y wlad dan ei arweinyddiaeth ef oedd Kampuchea Ddemocrataidd. Am y bu farw tua thraean o boblogaeth Cambodia yn ystod ei arweinyddiaeth, mae e'n cael ei ystyried fel un o'r llofruddwyr torfol gwaethaf mewn hanes diweddar, gyda Leopold II, Adolf Hitler, Josef Stalin a Mao Zedong.
Pol Pot | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw |
Pol Pot ![]() |
Ganwyd |
Saloth Sar ![]() 19 Mai 1925 ![]() Prek Sbauv ![]() |
Bu farw |
15 Ebrill 1998 ![]() Anlong Veng District ![]() |
Dinasyddiaeth |
Cambodia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
gwleidydd, swyddog ![]() |
Swydd |
Prime Minister of Cambodia, General Secretary of the Communist Party of Kampuchea ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Gomiwnyddol Kampuchea, Party of Democratic Kampuchea, Cambodian National Unity Party ![]() |
Mudiad |
radicalism, Maoaeth, anticolonialism, anti-capitalism, agrarianism ![]() |
Priod |
Khieu Ponnary ![]() |
Gwobr/au |
Hero of the Republic, Order of the National Flag ![]() |
Pan oedd mewn grym, fe weithredodd bolisi gormesol o symud pobl i'r wlad yn lle'r trefi i geisio 'puro' pobl Cambodia er mwyn troi'r wlad yn un oedd yn fwy cyntefig ac amaethyddol. Roedd hwn yn cynnwys lladd rhwng un a dwy filiwn o bobl a ystyriodd ef yn 'gelynion bourgeoise'. Fe ffodd ef i goedwigoedd Cambodia ar ôl i Fietnam ymosod ar y wlad ym 1979 a chwymp y llywodraeth Khmer Rouge. Ni alwyd ef i gyfrif byth am ei droseddau, a bu farw o achosion naturiol wrth guddio.