Mae Pont-Aven (Ffrangeg: Pont-Aven) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Banaleg, Melgven, Névez, Riec-sur-Bélon, Rosporden, Trégunc ac mae ganddi boblogaeth o tua 2,813 (1 Ionawr 2021).

Pont-Aven
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Br-Pont-Aven-Y-M D-Wikikomzoù.flac Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,813 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJean-Marie Lebret Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd28.63 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr34 metr, 0 metr, 102 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBanaleg, Mêlwenn, Nevez, Rieg, Rosporden, Tregon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.8556°N 3.7472°W Edit this on Wikidata
Cod post29930 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Pont-Aven Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJean-Marie Lebret Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Poblogaeth

golygu

 

Ysgol artistiaid Pont-Arven

golygu

Mae Pont-Aven yn enwog am ei chymdeithas o artistiaid, ysgol Pont-Aven (Fr: École de Pont-Aven), a dechreuodd ymgynnull yn y gymuned yn y 1850au ac a barhaodd hyd  ddechrau'r 20g. Un o’r artistiaid pwysicaf i fod yn rhan o’r ysgol oedd Paul Gauguin a dreuliodd gyfnodau estynedig yn yr ardal ar ddiwedd y 1880au a dechrau'r 1890au.

Ymwelodd y darlunydd Saesneg Randolph Caldecott ym 1880. Gan greu’r lluniau ar gyfer Llyfr Henry Blackburn Folk: An Artistic Tour of Brittany (1880)[1], un o’r teithlyfrau mwyaf poblogaidd y cyfnod.

Ymysg yr artistiaid eraill i fod yn rhan o’r ysgol oedd Robert Wylie, Charles Way, Earl Shinn, Howard Roberts, Benjamin Champney, Frederick Bridgeman a Moses Wright, o’r Unol Daleithiau. Bu’r peintwyr Ffrengig William Bouguereau, Louis-Nicolas Cabat a Paul Sébillot yn aros yn y pentref dros gyfnodau’r haf. Ymysg yr artistiaid eraill o wledydd tramor bu Herman van den Anker o’r Iseldiroedd, Augustus Burke o’r Iwerddon a Paul Peel o Ganada.

Artistiaid eraill a arhosodd gyda Gauguin ym Mhensiwn Gloanec ym Mhont-Aven oedd Émile Bernard, Charles Filiger, Meijer de Haan, Charles Laval, Robert Bevan, Roderic O'Conor, Émile Schuffenecker, Armand Séguin a Władysław Ślewiński.

Artistiaid Ysgol Pont-Aven

golygu

Wedi'i drefnu yn ôl blwyddyn cyraedd:

Galeri darluniau o Ysgol Pont-Aven

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Breton folk : an artistic tour in Brittany". Cyrchwyd 10 Ebrill 2017.

Dolenni allanol

golygu