Pont-y-Pair
Pont hynafol ar Afon Llugwy yn Eryri yw Pont-y-Pair. Mae'n sefyll yng nghanol pentref Betws-y-Coed yn Sir Conwy. Mae'r enw yn cyfeirio at y "pair" o ddŵr oddi tanodd lle mae'r Afon Llugwy yn ymgasglu ar ôl disgyn rhwng y creigiau. Mae'n cludo'r ffordd B5106 (Conwy - Betws-y-Coed) dros yr afon i gyffordd ar yr A5.
Math | pont ffordd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Betws-y-coed |
Sir | Betws-y-coed |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 16.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.0939°N 3.80598°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN032 |
Rhywbryd yn y 15g, efallai, codwyd pont gerrig dros Afon Llugwy yn y man lle ceir pentref Betws-y-Coed (dim ond yr eglwys ac ychydig o dai oedd yno yn y 15g). Fe'i priodolir gan rai i'r pensaer Cymreig Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny.[1]
Mae gan y bont gerrig hon bump bwa, gyda'r un sydd yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.
Mae Pont-y-Pair yn denu nifer o bobl yn yr haf ac mae rhai pobl yn neidio i'r afon o'r bont neu o'r creigiau yn ei hymyl.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ North Wales (cyfres 'The Travellers' Guides', dim dyddiad).