Pont gludo
Pont uchel o fframwaith dur neu haearn, fel rheol, sy'n gadael i longau basio o dani yw pont gludo neu bont lwyfan. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn basged grog fawr neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Y bont gyntaf o'r math yma oedd Pont Vizcaya yn Portugalete, Gwlad y Basg, yn Sbaen, a adeiladwyd yn 1893 ac a gynlluniwyd gan Alberto Palacio. Enwyd y bont yma yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2006.
![]() | |
Math | pont symudol ![]() |
---|---|
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Middlesbrough_Transporter_Bridge.jpg/200px-Middlesbrough_Transporter_Bridge.jpg)
Dim ond rhyw ugain o'r pontydd hyn a godwyd erioed, ac o'r rheini dim ond rhyw chwech sy'n dal i gael eu defnyddio. Ceir un o'r rhain yng Nghymru, sef Pont Gludo Casnewydd, sy'n croesi Afon Wysg yn ninas Casnewydd, a agorwyd yn 1906.
Dolenni allanol
golygu- Casglu'r Tlysau Lluniau hanesyddol o Bont Gludo Casnewydd