Pont Gludo Casnewydd

pont ar Afon Wysg

Pont gludo ar draws Afon Wysg yn ninas Casnewydd yn ne Cymru yw Pont Gludo Casnewydd. Hon yw'r unig Bont Gludo yng Nghymru; dim ond tuag ugain a adeiladwyd trwy'r byd a dim ond wyth o'r rhain sy'n parhau i gael eu defnyddio.

Pont Gludo Casnewydd
Mathpont gludo Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol12 Medi 1906 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefonnen, Pilgwenlli, Llyswyry Edit this on Wikidata
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.57064°N 2.98556°W Edit this on Wikidata
Hyd197 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Fe'i cynlluniwyd gan y peiriannydd o Ffrancwr Ferdinand Arnodin, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ar 12 Medi 1906. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn platfform neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Defnyddiwyd y math yma o bont gan fod glannau'r afon yn isel yma, a bod angen i'r bont ei hun fod yn uchel er mwyn caniatau i longau fynd oddi tani.

Caewyd y bont yn 1985, a gwariwyd £3 miliwn ar ei hadfer. Ail-agorodd yn 1995 ac mae'n parhau i gael ei defnyddio. Gall y platfform gludo 6 char a thua 120 o deithwyr.

Ar hyn o bryd (2022), mae'r bont ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw, ond mae disgwyl iddi ail-agor yn 2023.[1][2]

Diwylliant golygu

Defnyddiwyd y bont ar gyfer rhai golygfeydd yn y ffilm Tiger Bay ym 1959. Yn ddiweddarach, mae artistiaid gan gynnwys Eädyth[3] a 60 Ft. Dolls wedi perfformio ar y bont.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Visit". www.newport.gov.uk. Cyrchwyd 2021-09-25.
  2. amam.cymru https://amam.cymru/gwylnewydd/eadyth-y-bont-gludo. Cyrchwyd 2021-09-25. Missing or empty |title= (help)
  3. amam.cymru https://amam.cymru/gwylnewydd/eadyth-y-bont-gludo. Cyrchwyd 2021-09-25. Missing or empty |title= (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato