Pontio
Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Mae'n adeilad chwe llawr ar ar hen safle Theatr Gwynedd. Cynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri Grimshaw, ac mae ynddo theatr hyblyg, canolig ei faint, wedi ei enwi ar ôl y canwr byd-enwog, Bryn Terfel, Stiwdio Theatr sy’n dal hyd at 120 o bobl, Sinema ddigidol sy’n dal 200, canolfan arloesi ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr gan gynnwys swyddfeydd Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu. Mae hefyd yn cynnig bwyd a diod. Fe'i lleolir ar Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ.[1]
Enghraifft o'r canlynol | theatr, canolfan y celfyddydau, sinema, canolfan gynadledda, theatr, neuadd gyngerdd, canolfan gymunedol |
---|---|
Lleoliad | Bangor |
Gweithredwr | Prifysgol Bangor |
Rhanbarth | Bangor |
Gwefan | https://www.pontio.co.uk/ |
Mae Pontio yn cynnig adloniant yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gynnwys ffilmiau, cerddoriaeth a drama, gigs, sioeau plant, a sioeau cabaret.[1] Agorwyd y ganolfan yn swyddogol, wedi oedi, ym mis Tachwedd 2015.[2]
Hanes
golyguDechreuwyd ar waith adeiladu Pontio yn 2012 fel prosiect gwerth £50 miliwn. Adeiladwyd hi ar safle'r hen Theatr Gwynedd a'r bwriad oedd i agor ym mis Medi 2014 ond cafwyd oedi ar y prosiect. Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Bangor ar y pryd, ei fod yn "bleser enfawr" i fanylu ar y "cyfleusterau ardderchog" fydd ar gael i'r cyhoedd.[3]
Amcan gost y prosiect oedd £37m, gydag addewid creu 900 o swyddi ym Mangor. Cafwyd protestiadau ar ddechrau'r gwaith nad oedd lle teilwng i'r Gymraeg yn y cynllunio.[4]
Dywedodd Jerry Hunter ei bod hi "wedi bod yn daith anodd, ond nawr ry'n ni wedi creu canolfan arloesol am wyddoniaeth a'r celfyddydau ym Mangor".[5]
Agorwyd yr adeilad ar 29 Tachwedd 2015 gyda perfformiad acrobataidd cwmni 'Pirates of Carabina'. Daeth mil o bobl i'r diwrnod agored gyntaf. Cafwyd hefyd berfformiad a gomisiynwyd yn arbennig i'r agoriad o'r enw Disgleirio/Shine yn cynnwys plant Ysgol Glancegin a Glanadda yn gweithio gyda prosiect ymwneud pobl ifanc y ganolfan, BLAS.[2]
Yr Adeilad
golyguLefel 0 - Cyntedd
golyguAr Lefel 0 mae'r prif gyntedd. Yma ceir y Dderbynfa, y Swyddfa Docynnau a bar Ffynnon yn ogystal â'r drysau sy’n arwain at seddi llawr Theatr Bryn Terfel a'r Sinema 200 o seddi. Gellir trawsnewid awditoriwm hyblyg Theatr Bryn Terfel o theatr draddodiadol 450 sedd gyda bwa prosceniwm, i theatr gron gyda lle i 500 o bobl sefyll mewn gig.
Lefel 1
golyguCeir y prif ddrysau i'r Sinema ac i Falconi 1 Theatr Bryn Terfel.
Mae toiledau a chyfleusterau newid babis wedi eu lleoli yma hefyd ar Lefel 1.
Lefel 2
golyguCeir man agored; Caffi Cegin, mynediad at Falconi 2 Theatr Bryn Terfel, y Stiwdio, y Bocs Gwyn a Darlithfa 2.
Mae'r Theatr Stiwdio yn cynnwys 120 o seddau ar gyfer digwyddiadau mwy agos-atoch, ac mae hefyd yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol a chymdeithasau myfyrwyr.
Lefel 3
golyguLleoliad yr Hwb - man Arloesi Pontio. Bwriad Man Arloesi Pontio yw rhoi i unigolion a busnesau sgiliau a fydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr economi fodern. Mae'r pwyslais ar weithio ar draws disgyblaethau a phrototeipio cyflym, ac mae Co-Lab, Media Lab, Hackspace a Fablab yn gartref i dechnolegau blaengar. Bydd yn hwb i raglenni dysgu traws-ddisgyblaethol y brifysgol ac yn annog cydweithio rhwng myfyrwyr, staff a busnesau lleol.[angen ffynhonnell]
Lefel 4
golyguLleoliad swyddfeydd a chyfleusterau cyfarfodydd Undeb Myfyrwyr Bangor.
Lefel 5
golyguAr lefel uchaf Pontio ceir darlithfa fawr gyda lle i hyd at 450 ynghyd â dau fan dysgu cymdeithasol helaeth.
Ceir yna golygfeydd ar draws Bangor. O Lefel 5, gellir cerdded allan yn syth i Allt Penrallt, dim ond tafliad carreg o Brif Adeilad y Brifysgol.[1]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Pontio[dolen farw]
- Sianel Pontio ar Youtube
- @PontioBangor ar Facebook
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Croeso i Pontio". Gwefan Pontio. Cyrchwyd 14 Mawrth 2024.[dolen farw]
- ↑ 2.0 2.1 "Pontio centre opens its doors to the public in acrobatic 'Welcome Day'". Wales Online. 29 Tachwedd 2015.
- ↑ "Canolfan Pontio ar fin agor ym Mangor". BBC Cymru Fyw. 23 Hydref 2015.
- ↑ "Protest yn amharu ar lansiad swyddogol Pontio". Golwg360. 2011.
- ↑ "Canolfan Pontio ar fin agor ym Mangor". BBC Cymru Fyw. 23 Hydref 2015.