Pentref model yn Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Port Sunlight.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Cilgwri. Saif ar benrhyn Cilgwri ar lan gorllewinol Afon Merswy, rhwyg Bebington a New Ferry.

Port Sunlight
Mathanheddiad dynol, maestref, pentref model Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Fetropolitan Cilgwri
Sefydlwyd
  • 1888 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.355°N 2.994°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ338847 Edit this on Wikidata
Cod postCH62 Edit this on Wikidata
Map

Fe'i sefydlwyd gan Arglwydd William Hesketh Lever yn 1888 ar gyfer gweithwyr yn ei ffatri sebon. Prynodd ei gwmni, Lever Brothers a ddaeth yn rhan o Unilever ym 1930, 56 erw o dir ar lan deheuol yr afon ar gyfer ffatri a pentref. Gweithiodd bron 30 o benseiriau yn ystod y prosiect, ac adeiladwyd 800 o dai rhwng 1899 a 1914. Enwyd y pentref ar ôl "Sunlight", sebon golchi poblogaidd Lever Brothers.

Mae amgueddfa ac Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever yn y pentref.[2]

Mae’r pentref wedi bod yn ardal cadwriaeth ers 1978. Mae dros 900 o adeiladau rhestredig gradd II. Mae dros 300,000 o bobl yn ymweld yn flynyddol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Pentref Port Sunlight ym 1999 gan gwmni Unilever.[3]

Agorwyd parc ar lan yr afon yn 2014 ar hen safle tirlenwi. Mae’r gwlyptir cyfagos yn bwysig i adar y môr. Perchnogion y parc yw yr ymddiriedolaeth tir, a rheolir y parc gan Autism Today.[4]

Tai teras
Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2019
  2. Gwefan y pentref
  3. "Tudalen yr Ymddiriedolaeth ar wefan y pentref". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-15. Cyrchwyd 2019-02-14.
  4. Gwefan y ‘Land Trust

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Glannau Merswy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato