Porth Neigwl

bae ar arfordir penrhyn Llŷn, Gwynedd

Bae eang ar arfordir penrhyn Llŷn, Gwynedd, yw Porth Neigwl (Saesneg: Hell's Mouth).

Porth Neigwl
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8°N 4.58333°W Edit this on Wikidata
Map

Disgrifiad

golygu
 
Machlud haul o'r traeth.

Mae'n fae agored, eang, sy'n gorwedd rhwng pentiroedd Mynydd Rhiw i'r gorllewin a Mynydd Cilan i'r dwyrain. Mae'r pentiroedd hyn yn greigiog gyda chlogwynni yn disgyn i'r môr. Felly mae Porth Neigwl fel ceg llydan agored yn nhirwedd de Llŷn: dyma, a'r ffaith ei fod mor beryglus i forwyr ar dywydd mawr oherwydd y tonnau mawr a diffyg cysgod, sy'n cyfrif ar yr enw Saesneg ar y bae.

Ceir traeth hir, unionsyth bron, sy'n ymestyn am tua pedair milltir rhwng y ddau benrhyn. Tu ôl i'r traeth ceir tywynni gwelltog sy'n ffurfio morfa nodedig. Llifa afon Soch ar gwrs cyfochrog i'r traeth gan dod o fewn hanner milltir iddo ger Llanengan, yr unig bentref o fewn cyrraedd iddo.

Ceir maes pebylla a charafanio yn Nhai Morfa, ger Llanengan. Oherwydd y tonnau mawr a geir yno mae'n gyrchfan poblogaidd ar gyfer hwylfordio.

Cadwraeth

golygu

Mae Porth Ceiriad, Porth Neigwl ac Ynysoedd Tudwal yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Oriel luniau

golygu