Port Rìgh
(Ailgyfeiriad o Portree)
Port Rìgh (Saesneg: Portree) yw tref fwyaf An t-Eilean Sgitheanach (Ynys Skye) yn Ynysoedd Mewnol Heledd yn yr Alban. Ceir harbwr yma, a chanolfan ar gyfer diwylliant Gaeleg yr ynys, Canolfan Aros. Yma mae'r unig ysgol uwchradd ar yr ynys. Roedd y boblogaeth yn 2,491 yn 2001, gydag oddeutu 37.72% o'r rhain yn siarad Gaeleg.
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 2,480 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.4131°N 6.1936°W |
Cod SYG | S20000223, S19000252 |
Cod OS | NG483454 |
Cod post | IV51 |
Y Royal Hotel oedd safle'r cyfarfod olaf rhwng Flora MacDonald a Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) yn 1746.