Cynhwysydd a gaiff ei lenwi gyda dŵr poeth a'i selio yw potel dŵr poeth, a ddefnyddir er mwyn darparu gwres, fel arfer yn y gwely, ond hefyd ar gyfer rhoi gwres ar ran arbennig o'r corff.

Potel dŵr poeth metel yn dyddio o 1925
Dau botel dŵr poeth cyfoes

Defnyddiwyd cynhwysyddion ar gyfer gwresogi'r gwely cyn gynhared â'r 16g. Roedd y fersiynau cynharaf ar ffurf padell a chaent eu llenwi gyda glo o farwor tân er mwyn cynhesu'r gwely cyn mynd iddo.

Yn fuan iawn, dechreuwyd defnyddio cynhwysyddion dŵr poeth, a oedd gyda'r fantais o allu cael eu gadael yn y gwely gyda'r cysgwr. Cyn i rwber a allai wrthsefyll digon o wres gael ei ddyfeisio, cynhyrchwyd y poteli cynnar o ddeunyddiau megis sinc, copor, gwydr, llestri pridd neu bren. Er mwyn atal y botel rhag llosgi'r cysgwr a'r gwely, byddai'r poteli fel arfer yn cael eu lapio mewn sach neu ddefnydd.

Cynhyrchir poteli dŵr poeth cyfoes allan o rwber neu ddeunydd tebyg, mewn cynllun sydd o dan freinlen dyfeisiwr Croatiaidd Eduard Penkala.

Erbyn diwedd yr 20g roedd defnydd poteli dŵr poeth led-led y byd wedi lleihau'n sylweddol. Nid yn unig oherywdd gan fod y tai wedi cael eu gwresogi'n well, ond gan fod dyfeisiadau eraill megis blanced drydan yn aml yn cymryd lle poteli dŵr poeth fel modd o gynhesu'r gwely.

Mae poteli dŵr poeth yn parhau i fod yn fodd amgen o ddarparu gwres, mewn gwledydd sy'n datblygu (er enghraifft Tsile, lle'i gelwir yn "guatero"[1]), ac ardaloedd gwledig yn y Deyrnas Unedig. Mae cynnydd wedi bod ym mhoblogrwydd y poteli yn Japan yn ddiweddar, lle caiff ei gysidro i fod yn ffordd o gadw'n gynnes sy'n rhad ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd.[2]

Mae rhai dyfeisiadau diweddar sydd wedi cymryd lle poteli dŵr poeth yn gweithio mewn modd tebyg i'r hen wresogyddion gwely. Caiff y ddyfais ei hun ei gwresogi mewn microdon yn hytrach na'i llenwi gyda deunydd poeth, caiff rhain eu marchnata fel dyfeisiadau sy'n rhatach ac yn fwy diogel na photeli a theclynau trydanol. Ond mae problemau i'w cael gyda'r rhain hefyd: mae nifer o bobl wedi llosgi eu hunain ac mae'r dyfeisiadau wedi mynd ar dân mewn rhai achosion.

Er y defnyddir poteli dŵr poeth yn gyffredinol ar gyfer cadw'n gynnes, maent hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer darparu gwres i rannau arbennig o'r corff fel triniaeth meddygol, er enghraifft er mwyn lleddfu poen, er fod dyfeisiadau mwy diweddar wedi cael eu cynllunio'n arbennig ar gyfer y pwrpas hwn.

Cyfeiriadau golygu

  1. ""guatero"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-07. Cyrchwyd 2010-02-05.
  2.  Leo Lewis (29 Tachwedd 2008). Japan's thrifty find the hot water bottle to survive the chill. The Times.

Dolenni allanol golygu